'Cadw golwg fanwl' ar berthynas prifysgol
- Cyhoeddwyd

Mae un o brifysgolion Cymru yn dweud eu bod yn cadw golwg fanwl ar eu perthynas gyda chwmni sy'n helpu pobl i symud o fudd-daliadau i fyd gwaith.
Y syniad oedd y byddai Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam yn gwobrwyo cyrsiau a gyflwynwyd gan gwmni A4e.
Ond mae wedi dod i'r amlwg ers hynny fod yr heddlu'n ymchwilio i'r cwmni sy'n delio â gwerth miliynau o bunnoedd mewn cytundebau yn y DU.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymwybodol o'r honiadau wnaed am A4e."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb.
Ymestyn
Ychwanegodd y llefarydd: "Hyd yn oed cyn i'r honiadau ddod i'r amlwg mae cyfnod trafod union natur y berthynas gydag A4e wedi'i ymestyn gyda chydweithrediad y ddwy ochr.
"Mae'r brifysgol yn amlwg yn parhau i gadw golwg fanwl ar y sefyllfa."
Cyhoeddodd Prifysgol Glyndŵr ac A4e eu bwriad i gydweithio ym mis Hydref.
Roedden nhw i fod i gadarnhau manylion y berthynas fis diwetha'.
Un o'r syniadau dan ystyriaeth oedd y byddai'r brifysgol yn dilysu cyrsiau A4e.
Fe ymddiswyddodd Emma Harrison fel cadeirydd A4e yr wythnos ddiwetha', ddiwrnod ar ôl iddi adael ei rôl fel "pencampwr teulu" y llywodraeth.
Mae'r heddlu'n ymchwilio i honiadau o dwyll mewn cysylltiad â'r cwmni o Berkshire ond y gred yw bod un ymchwiliad yn gysylltiedig ag is-gontractwr.
Mae pedwar aelod o staff A4e wedi cael eu harestio ac wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth tan fis nesa'.
Dywed A4e fod yr honiadau'n dyddio'n ôl i 2010 ac iddyn nhw ddod i'r amlwg yn ystod ymchwiliad mewnol y cwmni.
Cafodd y cwmni ei feirniadu ar ôl i gyfranddalwyr dderbyn £11m mewn rhandaliadau tra bod eu trosiant i gyd yn dod o gytundebau llywodraeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2011