Un o'r parciau lleiaf ym Mhrydain yn 60 oed
- Cyhoeddwyd

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 60 oed ddydd Mercher.
Bydd cyngerdd arbennig ger pencadlys y parc yn Noc Penfro yn cael ei gynnal ym mis Mawrth.
Hwn yw un o'r parciau lleiaf ym Mhrydain a'r unig un gafodd ei sefydlu i ofalu am ardal arfordirol yn bennaf.
"Y llynedd, yn ôl darllenwyr y National Geographic, hon yw'r gyrchfan arfordirol fwya poblogaidd ond un yn y byd," meddai James Parkin, un o gyfarwyddwyr y parc.
"Ar ei fwyaf llydan, mae'r parc yn 16 cilometr gan gynnwys mynyddoedd Y Preseli, ond ar ei mwyaf cul dim ond 100 metr yw'r parc.
"Mae'r bobl dwi wedi gweithio â nhw o Ewrop wastad yn synnu at siâp y parc a'r ffaith bod dros 22,000 o bobl yn byw yma - un o'r parciau mwyaf poblog yn Ewrop."
Treftadaeth
Gan fod 279 o henebion rhestredig, 1,200 o adeiladau graddedig a 14 ardal gadwraeth yn y parc, mae gan yr awdurdod gyfrifoldeb am dreftadaeth hanesyddol yn ogystal â'r bywyd gwyllt.
Nia Thomas fu'n holi Tegryn Jones, Prif Weithredwr y Parc
Mae hyn yn parhau i fod yn her, meddai Mr Parkin, sy'n bwriadu trefnu digwyddiadau addysgol.
"Daeth y parc i fodolaeth oherwydd deddfwriaeth yn y 1940au, cyfnod economaidd anodd," meddai.
"Er bod y byd yn wahanol erbyn hyn mae'r amgylchedd dal yn fregus mewn cyfnod economaidd anodd ac mae mynediad i gefn gwlad dal yn bwysig.
"Ond mae'n rhad ac am ddim - mae hynny mor bwysig ag erioed."
Daeth y parc i sylw'r byd pan darodd tancer y Sea Empress creigiau ger arfordir Sir Benfro ar Chwefror 15, 1996, ac effeithiodd yr olew ar yr arfordir.
Arbenigedd
Erbyn hyn, mae pobl o wledydd gwahanol yn cysylltu â wardeniaid y parc oherwydd eu harbenigedd ar ôl eu holl waith cadwraeth wedi'r trychineb.
Mae'r parc yn parhau i fod yn gartref i sawl aderyn prin fel y fulfran wen ac mae traean o balod Prydain yn nythu yn Sir Benfro.
"Fel un o'r ddinas yn wreiddiol, dwi byth yn blino ar weld dolffiniaid a siarcod oddi ar yr arfordir," meddai Mr Parkin.
"Mae pobl yn meddwl bod angen mynd tramor ond mae'n hawdd anghofio beth sydd yma yng ngorllewin Cymru."
Straeon perthnasol
- 25 Awst 2009
- 14 Medi 2005
- 30 Mehefin 2004
- 30 Mehefin 2004