Awema: Heddlu'n ymchwilio i elusen
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i honiadau o anonestrwydd ymhlith staff elusen lleiafrifoedd ethnig Awema.
Ers wythnosau mae'r elusen wedi bod yng nghanol honiadau o gamweinyddu ariannol.
Yn gynharach yn y mis cafodd y prif weithredwr, Naz Malik, a'r cyfarwyddwr ariannol, Saquib Zia, eu diswyddo ac mae cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru wedi ei rewi.
Eisoes cafodd gweinyddwyr eu galw i mewn i ddirwyn materion ariannol y sefydliad i ben.
Daeth hyn wedi adroddiad oedd yn dweud bod "diffyg rheolaeth sylfaenol" yn Awema.
Mae'r heddlu'n ystyried canlyniadau adroddiadau Llywodraeth Cymru a Chronfa'r Loteri Fawr i wariant yr elusen o £8.4 miliwn o arian cyhoeddus.
Ymchwiliad
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dave Runnalls o Uned Droseddau Economaidd Heddlu'r De: "Gallaf gadarnhau bod Heddlu De Cymru yn ymchwilio i honiadau o anonestrwydd staff Awema."
Roedd ymchwiliad archwilwyr mewnol Llywodraeth Cymru wedi canfod "diffyg llwyr goruchwyliaeth prosesau ariannol" yn yr elusen y mae ei phencadlys yn Abertawe.
Dywedodd fod arian yr elusen wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer tâl aelodaeth o £2,120 ar gyfer campfa, tocynnau rygbi a chriced gwerth £800 a dirwy parcio i Mr Malik o £110.
Hefyd dywedodd bod "gwrthdaro buddiannau" gan mai un o gyfarwyddwyr y cwmni oedd merch Mr Malik, Tegwen, y cododd ei chyflog o £20,469 i £50,052.
Roedd adroddiad blaenorol wedi dweud bod Mr Malik wedi defnyddio arian i dalu biliau cerdyn credyd o £9,340 a honni bod ei gyflog yntau wedi cynyddu i £65,719 heb gymeradwyaeth y bwrdd.
Mae'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad wedi mynnu atebion wedi iddi ddod i'r amlwg fod rhybuddion am Awema yn 2002, 2004 a 2007 ond bod arian cyhoeddus wedi parhau i fynd i'r elusen.
Straeon perthnasol
- 24 Chwefror 2012
- 22 Chwefror 2012
- 22 Chwefror 2012