Protestwyr iechyd o'r canolbarth yn teithio i'r Senedd

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr Ysbyty BronglaisFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae cannoedd o bobl wedi cychwyn ar y daith o'r canolbarth i Fae Caerdydd

Mae ffrae rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi codi ynghylch diogelwch cleifion cyn i ymgyrchwyr sy'n ofni y bydd gwasanaethau Ysbyty Bronglais yn cael eu cwtogi gynnal protest yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Honnodd Plaid Cymru fod Llywodraeth Cymru yn peryglu bywydau cleifion gyda'u cynlluniau i "symud gwasanaethau achub bywyd yn bellach i ffwrdd o gleifion".

Gwadodd Llywodraeth Cymru'r honiad, gan gyhuddo Plaid Cymru o "godi bwganod".

Mae cannoedd o ymgyrchwyr yn cynnal rali yn Y Senedd yng Nghaerdyd ddydd Mercher.

Marwolaeth cleifion

Eisoes mae staff a chleifion wedi mynegi pryder y gallai rhai o'r gwasanaethau symud o Geredigion i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin fel rhan o gynlluniau ad-drefnu Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Bydd ymgyrchwyr a chynrychiolwyr gwleidyddol o'r canolbarth yn cwrdd â Lesley Griffiths, Gweinidog Iechyd Cymru, ddydd Mercher.

Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynghylch dyfodol gwasanaethau Ysbyty Bronglais.

Disgrifiad,

Alun Thomas yn holi Hywel Griffith

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, fod Uned Gofal Meddygol Prifysgol Sheffield wedi ymchwilio i'r berthynas rhwng y pellter o ysbyty a marwolaeth cleifion mewn achosion brys.

Roedd yr ymchwil wedi casglu bod "cynyddu pellter y daith i ysbyty yn gysylltiedig â chynyddu'r perygl o farwolaeth".

Mae Ysbyty Bronglais yn gwasanaethu Ceredigion, rhannau o Bowys a de Gwynedd.

Cyfarfod cyhoeddus

Mae 12 o fysiau a thri bws mini yn cludo protestwyr o'r canolbarth i'r brifddinas.

Mae bysus yn cludo pobl o Aberystwyth, Aberaeron, Tregaron, Machynlleth, Llanidloes a Thywyn.

Ar ddechrau'r mis roedd dros 500 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth i fynegi eu pryder am y sefyllfa.

Ym mis Rhagfyr fe gyhoeddodd y bwrdd iechyd gynlluniau posib i newid darpariaeth gofal brys yn ysbytai'r canolbarth a'r gorllewin.

'Yn anodd iawn'

Disgrifiad,

Adroddiad Cemlyn Davies

Bydd nifer o wleidyddion yn annerch y protestwyr y tu allan i'r Senedd, gan gynnwys aelodau etholedig Ceredigion Elin Jones a Mark Williams, Yr Arglwydd Elystan Morgan cyn-AS Ceredigion, a Maer Aberystwyth Richard Boudier.

"Byddaf yn dweud wrth y rali pa mor hanfodol ydi Ysbyty Bronglais i ganolbarth a gorllewin Cymru," meddai Mr Boudier.

"Pe bai Hywel Dda yn penderfynu israddio uned frys Bronglais, yna gallai hynny fod yn anodd iawn pebaech chi'n cael damwain yn rhywle fel Machynlleth.

"Mae'n bosib y byddai'n rhaid teithio am ddwy awr i Gaerfyrddin.

"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ac i rwystro'r bwrdd iechyd rhag bwrw mlaen gyda'u cynlluniau."

Dydd Mawrth yn y Senedd dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, fod £32 miliwn yn cael ei wario ar unedau mamolaeth ac unedau brys newydd.

Dim israddio

Dywedodd na fyddai Bronglais yn cael ei israddio.

"Am ryw reswm mae nifer o bobl yn yr ardal yn meddwl y bydd gwasanaethau yn diflannu," meddai.

"Dyw hynny ddim yn wir."

Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn gwrando ar farn pobl Ceredigion ond nad oedd unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud.

"Dyw hwn ddim yn ymgynghoriad ar hyn o bryd ond nifer o ddigwyddiadau lle rydym yn cwrdd â'r cyhoedd, staff a phartneriaid gyda'r nod o ddeall yr her sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd," meddai llefarydd.

Ychwanegodd nad oedd dim ad-drefnu'n opsiwn.

"Byddwn yn casglu barn a syniadau gwahanol fydd yn y pen draw yn llunio opsiynau fydd yn rhan o broses ymgynghori ffurfiol yn ddiweddarach yn y flwyddyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol