Cwtogi gwasanaethau bws gwledig Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Bydd gwasanaethau bws ar Ynys Môn yn cael eu cwtogi yn sgil gostyngiad mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Dywed y cyngor sir lleol eu bod wedi gwneud "pob ymdrech" i gynnal y rhwydwaith trafnidiaeth wledig a lleihau unrhyw anawsterau drwy gynnig amryw o deithiau gwahanol.
O Ebrill 1 2012 bydd 34 o wasanaethau bws cytundebol presennol a ddarperir gan Gyngor Sir Ynys Môn yn dod i ben.
Daw hyn er mwyn cynnal gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn 2012/13.
Bydd y cymhorthdal ar draws Cymru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei gwtogi o £11 miliwn i £8 miliwn dros y flwyddyn nesa'.
Mae teithwyr ar fysiau eisoes wedi eu rhybuddio y gallai prisiau teithio godi hyd at 20% wedi i Lywodraeth Cymru dorri Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau 25% o Ebrill 1.
'Anhwylustod'
Mae'r rhan helaeth o brisiau teithio ar fysiau wedi codi er 2007 am fod prisiau disel wedi codi.
Ym mis Ionawr dywedodd cwmni GHA Coaches o Wrecsam, gweithredwr bysiau mwyaf Cymru, y gallai prisiau codi 20% ym mis Ebrill.
Dywedodd Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd Cyngor Sir Ynys Môn, Dewi Williams: "Tra bod hi'n anorfod y ceir anhwylustod i deithwyr sydd yn dibynnu ar y gwasanaethau yma, rydym wedi gwneud pob ymdrech i leihau effaith y newidiadau yma a chynnal cysylltedd ar gyfer cymunedau Môn, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig."
"Gwnaethpwyd hyn drwy ddileu'r teithiau hynny lle mae dewisiadau arall ar gael neu deithiau gyda'r defnydd lleiaf."
Dywed y cyngor er bod 34 o wasanaethau wedi dod i ben, mae cyfanswm o 555 o wasanaethau yn cael eu darparu ar yr Ynys.
"O'i roi o mewn cydestyn rydym yn cwtogi llai na 8% ar y gwasanaethau," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2010