Cyn-chwaraewyr yn talu teyrnged i Gary Speed
- Cyhoeddwyd

Bydd llu o gyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru yn talu teyrnged i Gary Speed mewn gêm goffa iddo.
Bydd Ryan Giggs, John Hartson, Mark Hughes, Neville Southall a Robbie Savage ymysg y 50 o sêr pêl-droed fydd yn cael eu cyflwyno i'r dorf yn ystod hanner amser y gêm yn erbyn Costa Rica yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher.
Mae dros 21,000 o docynnau wedi'u gwerthu a gobaith y Gymdeithas yw y bydd y stadiwm yn orlawn.
Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi dweud y bydd y digwyddiad yn ddathliad o fywyd Speed.
Fe fydd 'na nifer o artistiaid cerddorol yn cymryd rhan cyn y gêm gan gynnwys Super Furry Animals, Bryn Terfel, Mike Peters, Courtney Hamilton ac Only Men Aloud.
Mae disgwyl i dad Speed, Roger, ddweud gair wrth y chwaraewyr cyn y gêm a meibion y cyn-reolwr, Ed a Tommy, fydd yn arwain y tîm i'r cae.
Elusennau
Bydd nifer o elusennau ac achosion da yn elwa o'r gêm goffa.
Bydd elusen cymorth canser Macmillan; C.A.L.M., The Daisy Garland, Academi Bechgyn Dan 15 Clwb Pêl-Droed Wrecsam a Sefydliad Craig Bellamy yn elwa yn ariannol neu yn ymarferol.
Nia Thomas yn holi Ian Gwyn Hughes
Cafodd pob un o'r elusennau eu henwebu gan deulu Speed.
Bu farw Speed ym mis Tachwedd y llynedd yn 42 oed.
Cafwyd hyd i'w gorff yn ei gartref ger Caer ar Dachwedd 27.
Dywedodd crwner ddiwedd mis Ionawr na allai gasglu a oedd ei farwolaeth yn fwriadol neu'n ddamweiniol.
Roedd ei farwolaeth yn anghrediniaeth drwy'r gymuned bêl-droed.
Bethan Clement yn holi Cledwyn Ashford
Ymgasglodd cefnogwyr yn eu galar i dalu teyrnged i gyn-gapten Cymru a fu'n chwarae i glybiau Leeds, Newcastle, Everton, a Bolton.
Enillodd fwy o gapiau dros Gymru, 85, na neb arall ac eithrio'r gôl-geidwad Neville Southall.
Cyn rheoli Cymru bu'n rheoli Sheffield United.
Wedi dechrau anodd roedd y tîm o dan ei reolaeth wedi ennill pedair o'u pum gêm ddiwethaf.
Y fuddugoliaeth yn erbyn Norwy o 4-1 ar Dachwedd 12 oedd ei gêm olaf - y drydedd fuddugoliaeth yn olynol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012