Diffoddwyr yn achub ci o geunant ond gadael gafr ar ôl
- Cyhoeddwyd
Cafodd aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i achub ci a gafr o geunant 80 troedfedd (24 metr).
Defnyddiodd y diffoddwyr gyfarpar achub i nôl y pwdl ym Mhantygasseg ger Fferm Woodland, Pont-y-pŵl.
Llwyddodd y criw i achub y ci ar ôl dwy awr wedi iddyn nhw dderbyn galwad tua 7.50pm ddydd Mawrth.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bu'n rhaid iddyn nhw adael i'r afr ddychwelyd ar ei liwt ei hun.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol