Cwpl sydd wedi maethu dros 100 i dderbyn MBE bob un
- Cyhoeddwyd

Fe fydd cwpl o dde Cymru sydd wedi maethu dros 100 o blant dros y 30 mlynedd diwethaf yn derbyn yr MBE ym Mhalas Buckingham.
Derbyniodd John a Patricia Bonthron, sy'n 72 a 71 oed, o Ynysddu, Caerffili, eu hanrhydedd yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
Mae'r ddau yn dal i gynnig gofal ac fe fydd un ferch faeth yn ymuno gyda nhw yn y palas gyda'u mab a'u merch.
Dywedodd Mrs Bonthron nad oes ganddyn nhw gynlluniau i roi'r gorau i faethu.
Eglurodd eu bod wedi dechrau maethu ar ôl symud o Lundain.
"Fe wnaethon ni agor meithrinfa a meddwl symud i faes maethu gan ein bod yn caru plant ac eisiau rhoi'r dechrau gorau iddyn nhw," eglurodd.
Dal ati
Fe wnaeth Mr Bonthron roi'r gorau i'w waith fel gyrrwr lori ar sail iechyd 10 mlynedd yn ôl ac ers hynny mae'r ddau wedi cydweithio i ofalu am y plant.
Yn ddiweddar maen nhw wedi bod yn edrych ar ôl gefeilliaid tri mis oed a bachgen bach pump oed.
"Fe fyddwn ni'n dal ati i faethu hyd nes y gallwn ni," meddai Mrs Bonthron.
Mae'r ddau yn nerfus am ymweld â'r Palas ond yn falch o gefnogaeth y teulu, eu mab Andrew a'i wraig Lynn, eu merch Davina a Chloe, sy'n 16 oed ac wedi bod yn eu gofal ers naw mlynedd.
"Fe fydd 'na rywfaint o ddathlu ar ôl y seremoni," ychwanegodd.
"Mae nifer o'r plant yr ydym wedi eu maethu ac mewn cysylltiad â nhw yn falch iawn.
"Mae'r teulu yn un estynedig iawn erbyn hyn."
Dywedodd Andrew Bonthron ei fod yn falch iawn o'i rieni.
"Fe wnaethon nhw fy holi i am faethu pan oeddwn i tua 10 oed a doedd gen i ddim problem o gwbl.
"Roedd yn wych i mi gael cwmni yn y tŷ.
"Mae'r balans rhwng y teulu a'r rhai sy'n cael eu maethu wedi bod yn deg iawn.
"Dydyn nhw ddim yn cael eu trin fel plant maeth, dim ond fel ein brodyr a'n chwiorydd, un teulu mawr."
Straeon perthnasol
- 31 Rhagfyr 2011
- 31 Rhagfyr 2011