Tom James a Ceri Sweeney ar fechniaeth wedi ymosodiad

  • Cyhoeddwyd
Ceri Sweeney a Tom JamesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Ceri Sweeney a Tom James wedi cynrychioli Cymru

Mae dau chwaraewr rygbi rhyngwladol ymhlith pedwar o ddynion sydd wedi cael eu harestio ar ôl digwyddiad yng nghanol Caerdydd dros y penwythnos.

Cafodd asgellwr Gleision Caerdydd, Tom James, 24 oed, a'r maswr Ceri Sweeney, 32 oed, eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth wedi i ddyn ddioddef ymosodiad yn oriau mân bore Sul.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 26 oed wedi cael pwythau i anaf ar ei wyneb wedi'r digwyddiad ym Mhlas Y Brodyr Llwydion.

Mae Prif Weithredwr Y Gleision, Richard Holland, wedi cadarnhau "bod 'na ddigwyddiad" wedi bod.

Dydi'r heddlu ddim wedi enwi'r chwaraewyr.

Maen nhw wedi dweud bod dau ddyn 24 oed, dyn 27 oed a dyn 32 oed wedi eu harestio.

Mae BBC Cymru yn deall bod yr ymosodiad wedi digwydd y tu allan i glwb Tiger Tiger tua 1.20am ar ôl buddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn.

"Roedd 'na ddigwyddiad, ond tan fod yr heddlu wedi cwblhau eu hymchwiliad, does ganddo ni ddim i'w ddweud," meddai Mr Holland.

Ymosodwyd hefyd ar ddyn arall, 27 oed, yn ôl yr heddlu.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol