Katherine Jenkins i gystadlu ar Dancing With The Stars

  • Cyhoeddwyd
Katherine JenkinsFfynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,
Mae Katherine Jenkins yn edrych ymlaen i gymryd rhan yn y gyfres

Fe fydd y gantores o Gastell-nedd Katherine Jenkins yn cymryd rhan yn y gyfres deledu Dancing with the Stars yn Amercia.

Dyma fersiwn America o Strictly Come Dancing y BBC.

Ymhlith y rhai eraill fydd yn cymryd rhan eleni y bydd cyn-bencamwraig Wimbledon Martina Navratilova a'r gantores Gladys Knight.

Dim dyma'r tro cyntaf i Jenkins ymddangos ar y gyfres, mae hi wedi perfformio o'r blaen.

Un o'r beirniaid yw prif feirniad Strictly, Len Goodman.

Ymhlith y Prydeinwyr i gystadlu yn y gorffennol y mae Heather Mills a Kelly Osbourne.

"Mae Katherine yn edrych ymlaen at gymryd rhan," meddai llefarydd ar ran y gantores 31 oed.

Ei gobaith yw y bydd y gyfres yn llwyfan i'w gyrfa glasurol yn America.

Fe fydd y cystadleuwyr yn dawnsio am y tro cyntaf ar Fawrth 19 a 26.

Ymhlith enillwyr blaenorol y mae actores Dirty Dancing Jennifer Grey a fu'n feirniad gwadd ar Strictly Come Dancing y llynedd a chyn-gantores Pussycat Dolls Nicole Scherzinger.

Fe wnaeth Jenkins gyhoeddi ei bod hi a'r cyflwynydd Gethin Jones wedi gwahanu ym mis Rhagfyr.

Fe wnaeth y ddau gyfarfod pan oedd Jones yn cystadlu ar Strictly Come Dancing yn 2007.

Daeth Jones yn drydydd gyda'i bartner Camilla Dallerup.

Bydd Jenkins yn dawnsio gyda Mark Ballas.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol