Achub merch o fynydd yng Nghwmteleri
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i ferch yn ei harddegau oedd wedi'i hanafu gael ei hachub gan aelodau o'r gwasanaethau brys nos Fawrth.
Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i Gwmteleri, ger Aberteleri, tua 8.20pm.
Y gred yw bod y ferch yn dioddef o anafiadau i'w choes
Cafodd y ferch ei chludo i'r ysbyty gan barafeddygon wedi i ddiffoddwyr tân ei hachub o'r mynydd.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol