Dan Parks yn gadael y Gleision

Bydd cyn-faswr Yr Alban Dan Parks yn gadael Y Gleision ar ddiwedd y tymor hwn, gan ymuno â Connacht.

Mae'r chwaraewr 33 oed enillodd 67 o gapiau dros ei wlad wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd.

Penderfynodd Parks, gafodd ei eni yn Awstralia, ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl i'r Alban golli i Loegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae wedi chwarae i'r Gleision am ddwy flynedd.

Fe oedd y chwaraewr cyntaf i sgorio 1,000 o bwyntiau yng Nghynghrair Magners a fe yw prif sgoriwr (1,322 o bwyntiau) Cynghrair Rabo Direct.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.