Y ditectif a'r fedal gafodd ei dwyn
- Cyhoeddwyd

Mae medal ddewrder gafodd ei chyflwyno i blismon am achub menyw rhag boddi oddi ar arfordir y gogledd yn 1938 wedi ei dychwelyd i'w deulu wedi iddi gael ei darganfod mewn siop wystlo yn America.
Cysylltodd plismyn yn New Orleans, Louisiana, â Heddlu Gogledd Cymru yn 2010 wrth geisio darganfod pwy oedd piau'r fedal.
Llwyddodd ymchwilwyr i gysylltu â'r perchnogion, gan sylweddoli nad oedd y rheiny'n gwybod bod y fedal wedi ei dwyn.
Mae'r fedal wedi cael ei throsglwyddo i deulu John Robert Oxley a gafodd y fedal.
'Yn ddewr'
Yn ôl yr arysgrif, rhoddwyd y fedal i'r Ditectif Sarjant Oxley am "achub yn ddewr berson oedd yn boddi" ym Mae Cinmel ym mis Gorffennaf 1938.
Daeth y Ditectif Kevin Higgins o Heddlu New Orleans y fedal mewn siop yn y ddinas.
Ymchwiliodd i gefndir Mr Oxley, gan gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru am eu bod yn plismona Bae Cinmel.
Mae wedi diolch i BBC Cymru am godi ymwybyddiaeth am y fedal cyn i'r fedal gael ei chyflwyno i ferch Mr Oxley, Lucy Donoghue, sy'n 92 oed.
Mewn llythyr dywedodd y ditectif fod Keith Morris o gwmni Segontium Searchers yng Ngwynedd wedi dechrau ymchwilio i gefndir Mr Oxley am nad oedd llyfrgellwyr a phlismyn sydd wedi ymddeol yn gallu dod o hyd i unrhyw wybodaeth newydd amdano.
Daeth Mr Morris o hyd i adroddiadau papur newydd ddangosodd fod Mr Oxley, yn aelod o Heddlu Sir Gaerhirfryn, ar ei wyliau ym Mae Cinmel pan achubodd fenyw aeth i drafferthion pan oedd hi'n nofio yn y môr.
1965
Llwyddodd Mr Oxley a dyn arall adfywio'r fenyw cyn ei chludo i'r gwersyll lle'r oedd ef, ei wraig a'i ddwy ferch yn aros.
Cadarnhaodd Mr Morris fod Mr Oxley wedi marw yn Massachusetts ym 1965 pan oedd yn 66 oed.
Roedd ei ferched wedi ymfudo i America yn ystod y 1950au.
Daeth Mr Morris o hyd i aelodau teulu Mr Oxley cyn i'r Ditectif Higgins gysylltu'n uniongyrchol â pherthnasau Mrs Donoghue.
Sylweddolodd mab Mrs Donoghue fod y fedal ac eitemau eraill, gan gynnwys clustlysau, wedi eu dwyn.
Y llynedd cafwyd cyn gymydog Mrs Donoghue, werthodd y fedal a'r eitemau eraill i'r siop wystlo, yn euog o drafod eiddo wedi eu dwyn.
'Teimlad braf'
Dywedodd Mr Morris ei fod ar ben ei ddigon fod y fedal wedi ei dychwelyd i deulu Mr Oxley.
"Mae'n deimlad braf, yn enwedig oherwydd nad oedd y teulu yn gwybod fod y fedal wedi ei dwyn," meddai.
Dywedodd y Ditectif Higgins fod y fedal wedi'i throsglwyddo i deulu Mr Oxley yng nghanol mis Ionawr.
"Mae'n hyfryd bod pobl o'r ddwy wlad wedi cydweithio i ddarganfod perchnogion y fedal," meddai.
"Byddai'r fedal wedi ei cholli am byth ond doeddwn i ddim yn gallu gadael i hynny ddigwydd i deulu blismon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2008
- Cyhoeddwyd3 Medi 2010