Galw am gymorth i lyffantod groesi'r ffordd yn ddiogel
- Cyhoeddwyd

Mae galw am wirfoddolwyr i helpu llyffantod i groesi ffordd brysur yn Sir Ddinbych.
Bydd gwirfoddolwyr yn helpu i gario'r llyffantod dros ffordd brysur rhwng Bwlchgwyn a Llandegla.
Byddan nhw hefyd yn eu helpu wrth iddyn nhw symud tuag at eu pyllau bridio wedi cyfnod diweddar o dywydd mwyn.
"Mae'r A525 rhwng Bwlchgwyn a Llandegla'n ffordd gyflym iawn," meddai Lizzy Webster, Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych.
"Does gan y llyffantod fawr o siawns.
"Rydyn ni'n awyddus i fwy o bobl wirfoddoli, ac rydyn ni am glywed gan bobl sydd â diddordeb mewn helpu'r llyffantod yn yr wythnosau nesaf."
Mae'r galw am wirfoddolwyr yn rhan o ymgyrch genedlaethol 'Llyffantod ar y Ffordd', a gydlynir gan elusen genedlaethol bywyd gwyllt 'Froglife'.
Rhwydwaith cenedlaethol o grwpiau gwirfoddol sy'n ymwneud â chadwraeth amffibiaid ac ymlusgiaid yw 'Froglife'.
Credir fod y llyffant du yn dirywio yn y Deyrnas Unedig, a hynny, mewn rhai achosion, oherwydd effaith traffig ffyrdd gan fod llyffantod yn teithio'n araf yn ôl i'r un pwll bridio a ddefnyddir yn aml am genedlaethau.
Yn yr wythnosau nesaf, bydd 1,000 o wirfoddolwyr yn paratoi i helpu llyffantod ar draws ffyrdd y DU, mewn ymdrech gydlynol i helpu i arbed yr anifail rhag dirywio ymhellach.