Andrew Thomas
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Chwilio am gariad ar strydoedd Llundain

29 Chwefror 2012 Diweddarwyd 11:35 GMT

Mae hi'n ddiwrnod naid y diwrnod traddodiadol pan mae merched yn gofyn i'w cariadon eu priodi, mae'n debyg.

Ond mae gŵr o Gaerfyrddin yn defnyddio'r diwrnod yma i geisio dod o hyd i gariad.

Mae Andrew Thomas wedi rhoi fideo ar wefan Youtube a chreu cyfri Twitter yn gwahodd merched i ddod i gwrdd ag o yn Llundain.

Alun Thomas gafodd glywed mwy ganddo.