Chwilota am lyfr ar ddiwrnod arbennig
- Cyhoeddwyd

Mae Diwrnod y Llyfr eleni yn bwysicach nag arfer wrth iddo ddigwydd ar Ddydd Gŵyl Dewi ac mae 'na anrhegion i'w canfod ar hyd a lled Cymru.
Mewn dros 100 o wledydd ar draws y byd mae plant ac oedolion yn dod at ei gilydd i ddathlu awduron, darlunwyr, a'r swyn o ddarllen llyfrau.
Bydd llond gwlad o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal wrth i blant wisgo fel cymeriadau o fyd llyfrau a chyfnewid hoff nofelau.
Caiff y diwrnod ei ddynodi gan UNESCO fel diwrnod rhyngwladol i ddathlu'r llyfr.
Dyma'r 15fed flwyddyn i'r dathliad ddigwydd.
Gan ei fod ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, mae Llenyddiaeth Cymru am ddilyn esiampl y nawddsant ac am wneud rhywbeth bach i blesio darllenwyr Cymru gyfan.
Cuddio
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi dosbarthu cannoedd o lyfrau wedi eu lapio mewn papur brown a chortyn ledled Cymru.
Maen nhw'n cuddio mewn corneli ac yn aros yn eiddgar i gael eu darganfod a'u darllen.
Er mwyn dod o hyd i'r llyfrau mae angen dilyn Llenyddiaeth Cymru ar Twitter (@LlenCymru) neu ar Facebook (Llenyddiaeth Cymru / Literature Wales).
Dau o sêr rygbi Cymru, George North a Rhys Priestland, sydd i'w gweld yn darllen ar bosteri'r diwrnod.
Mae dros 15,000 o bosteri o'r ddau wedi eu dosbarthu ar draws Cymru.
"Mae darllen yn sgil pwysig ar gyfer pa bynnag swydd y byddwch chi'n ei ddewis," meddai North.
"Mae hefyd yn ffordd wych o ymlacio ar ôl diwrnod caled o hyfforddi.
"Fel chwaraewr proffesiynol dwi'n dal i fwynhau darllen cylchgronau rygbi ac adroddiadau.
"Dwi hefyd yn mwynhau darllen llyfrau antur."
Dywedodd Delyth Humphreys, Cyd-lynydd Diwrnod y Llyfr Cymru, ei bod yn falch o gael cefnogaeth y ddau chwaraewr.
"Mae diwrnod y llyfr yn dathlu pwysigrwydd darllen o gylchgronau i bapurau newydd ar y we neu lyfrau.
"Mae'n cael effaith ar ein bywyd bob dydd.
"Mae'n bwysig bod yr ieuenctid yn cael eu hysbrydoli gan rai fel Rhys a George."