30 o achosion brech goch
- Cyhoeddwyd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi annog rhieni i drefnu bod eu plant yn cael brechiadau MMR.
Erbyn hyn, mae 30 o achosion y frech goch yn ardal Porthmadog, yn gysylltiedig ag Ysgol Eifionydd.
Yr unig amddiffyniad yn erbyn y firws yw dau ddos o'r brechlyn MMR rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela.
Dywedodd yr awdurdodau fod pob achos naill ai wedi cael un dos yn unig neu ddim un o gwbl.
Roedd dwy sesiwn yr wythnos diwetha lle cafodd 30 o blant eu brechu.
Symptomau
Mae'r frech goch yn salwch firaol heintus iawn sy'n cael ei ddal trwy gysylltiad uniongyrchol â rhywun sydd wedi'i heintio neu drwy'r aer gan ddefnynnau yn sgil pesychu a thisian.
Ymhlith y symptomau mae twymyn, symptomau tebyg i annwyd, lludded, conjynctifitis a brech frowngoch amlwg.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, does dim triniaeth benodol ar gyfer y frech goch. Yn hytrach, dylid seilio triniaeth ar liniaru symptomau.
Presgripsiwn
Oherwydd bod y frech goch yn cael ei hachosi gan firws, nid yw gwrthfiotigau'n effeithiol ond mae modd eu cael ar bresgripsiwn os yw haint bacteriol eilaidd yn datblygu.
Dylid holi meddyg os yw'r frech goch yn cael ei hamau a dylai unrhyw un sydd â'r frech goch gael ei fonitro'n ofalus rhag ofn bod cymhlethdodau.
Mae'n bosibl y bydd angen triniaeth ysbyty os yw cymhlethdodau difrifol yn datblygu.
Straeon perthnasol
- 27 Mehefin 2011
- 1 Medi 2010
- 17 Rhagfyr 2009