Teulu ditectif preifat am gael ymchwiliad
- Cyhoeddwyd

Mae teulu ditectif preifat o Gymru, gafodd ei lofruddio yn Llundain bron chwarter canrif yn ôl, wedi galw eto am ymchwiliad barnwrol i sut y deliodd yr heddlu â'r achos.
Ddydd Mercher dywedodd yr Aelod Seneddol Tom Watson ar lawr Tŷ'r Cyffredin y dylai achos Daniel Morgan fod yn rhan o Ymchwiliad Leveson i safonau'r wasg.
Fe gafodd Mr Morgan ei ladd â bwyell y tu allan i dafarn yn Llundain yn 1987. Roedd yn 37 oed ac o Lanfrechfa ger Cwmbrân.
Cafodd pum dyn eu cyhuddo o'r llofruddiaeth yn 2008 ond ar ôl 18 mis o ddadleuon cyfreithiol cafodd yr achos ei ollwng ym mis Mawrth 2011.
Clywodd Ymchwiliad Leveson fod papur newydd wedi cadw llygad ar uwchswyddog oedd yn arwain ymchwiliad yr heddlu.
Pan gafodd ei ladd roedd Mr Morgan yn gweithio gyda dyn o'r enw Jonathan Rees.
Mae cwmni Mr Rees wedi cael ei gysylltu gyda hacio honedig e-byst ac roedd Mr Rees yn un o'r pump gafodd eu cyhuddo o lofruddio Mr Morgan.
Yn Ymchwiliad Leveson ddydd Mawrth cyfeiriodd Jacqui Hames, cyn dditectif yn Heddlu Llundain a chyngyflwynydd Crimewatch, at achos Mr Morgan.
Dywedodd fod News of the World wedi bod yn cadw llygad arni hi a'i gŵr, y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Dave Cook.
Roedd Mr Cook wedi bod ar raglen Crimewatch yn apelio am wybodaeth am lofruddiaeth Mr Morgan.
Dywedodd Ms Hames "cysylltiadau agos" rhwng Southern Investigation ac Alex Marunchak, Golygydd Materion Troseddol News of the World yn yr 80au.
Mewn datganiad dywedodd Ms Hames: "Rwy'n credu mai'r gwir reswm pam bod News of The World yn ein dilyn oedd bod y rhai dan amheuaeth yn achos Daniel Morgan yn defnyddio eu cysylltiadau gyda phapur newydd grymus er mwyn ceisio codi ofn a rhwystro'r ymchwiliad."
Mae brawd Mr Morgan, Alistair, wedi dweud bod y teulu am gael ymchwiliad barnwrol i fethiannau'r heddlu.
"Rydym wedi mynegi pryder ynglyn â sawl ymchwiliad yr heddlu dros gyfnod o flynyddoedd. Yr unig ffordd ymlaen yw ymchwiliad barnwrol."
Dywedodd fod ei deulu hefyd yn credu fod rhywun yn cadw llygad arnyn nhw yn 1998 wedi datblygiad sylweddol yn yr ymchwiliad i farwolaeth Mr Mogan.
"Fe dynnodd rhywun lun o fy mam a fy chwaer."
"Y llynedd fe wnes i ofyn i James Murdoch ymchwilio i hyn. Dyw e ddim wedi ateb fy llythyr."
Dywedodd News International, perchnogion News of The World, nad oedd ganddyn unrhyw sylw ynglŷn â datganiad Ms Hames wrth Ymchwiliad Leveson.
Fis Awst y llynedd fe alwodd yr AS Mr Watson am ymchwiliad i gysylltiadau honedig rhwng Jonathan Rees a Mr Marunchak.
Ar y pryd fe wadodd Mr Marunchak iddo gael unrhyw gysylltiad gyda Daniel Morgan ac nad oedd wedi gwneud unrhyw beth amhriodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd18 Awst 2011
- Cyhoeddwyd5 Awst 2011
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2011
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2009
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2007
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2003
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2002