David Roberts yn methu cystadlu am le oherwydd salwch

  • Cyhoeddwyd
David RobertsFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
David Roberts gydag un o'i fedalau aur yn Beijing

Mae'r nofiwr Paralympaidd David Roberts wedi tynnu allan o'r treialon cyntaf ar gyfer Llundain 2012.

Un medal aur arall y mae'r gŵr 31 oed o Gaerdydd ei angen er mwyn cael mwy o fedalau aur na'r Farwnes Tanni Grey-Thompson, cystadleuydd parlympaidd mwya llwyddiannus Prydain.

Mae'r treialon yn cychwyn ddydd Sadwrn.

Ond mae gan Roberts niwmonia.

Roedd wedi gobeithio cadarnhau ei le yn ei bedwerydd Gemau Paralympaidd wrth gystadlu yn y Ganolfan Ddŵr yn y Parc Olympaidd.

Enillodd Roberts, sydd â pharlys yr ymennydd, fedalau aur yn y pwll yn Beijing ar gyfer y 50 metr, 100 metr a'r 400 metr dull rhydd yn ogystal â'r ras gyfnewid.

Anaf

Nawr bydd yn rhaid iddo lwyddo ym Mhencampwriaeth Brydeinig Nofio ar gyfer yr Anabl yn Sheffield rhwng Ebrill 6 a 8.

"Mae Dave wedi cael blwyddyn anodd," meddai cyfarwyddwr perfformio Nofio Prydain, John Atkinson.

"Fe gollodd Bencampwriaethau Ewrop y llynedd oherwydd anaf i'w fraich ac mae o wedi llwyddo ers hynny i ddychwelyd at ei hyfforddiant.

"Rydym yn cefnogi Dave wrth iddo wella o niwmonia ac mae'r tîm meddygol mewn cysylltiad cyson a fo.

"Roedd y gystadleuaeth yma yn rhy fuan cyn ei fod yn holliach.

"Rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn y treialon ym mis Ebrill."