Ambiwlans: 'Angen codi £600,000'
- Cyhoeddwyd

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi lansio ymgyrch i godi £600,000 ychwanegol y flwyddyn er mwyn uwchraddio hofrennydd.
Bydd hofrennydd yr elusen yn y canolbarth yn cael ei ddadgomisiynu am ei fod yn 20 oed.
Yn ôl yr elusen, mae angen yr arian ychwanegol i uwchraddio a chynnal a chadw hofrennydd mwy newydd, gan ddefnyddio'r dechnoleg a chyfarpar meddygol mwya modern.
Y nod yw cynnig gwasanaeth argyfwng i'r rhai sy'n dioddef salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd.
Cyfraniadau'r cyhoedd
Dechreuodd ei gwaith Ddydd Gŵyl Dewi yn 2001 gydag un hofrennydd yn Abertawe.
Erbyn hyn mae 'na dri hofrennydd fel arfer yn Abertawe, Y Trallwng a Chaernarfon "er mwyn cyrraedd unrhyw ran o Gymru o fewn 20 munud."
Mae'n costio £6 miliwn y flwyddyn i gynnal y gwasanaeth a'r cyhoedd sy'n cyfrannu.
Cafodd apêl "Gweithredwch nawr" ei lansio yn Neuadd Gregynog ger Y Drenewydd ym Mhowys ddydd Mercher.
Yr elusen sy'n codi'r holl arian sydd ei angen i redeg y gwasanaeth o ddydd i ddydd.
Bob dydd mae angen £4,500 ar gyfartaledd i gynnal y tri hofrennydd.
Ymhob criw mae un peilot a dau barafeddyg sydd wedi'u hyfforddi i gynnig gofal brys cyn i gleifion gael eu cludo i'r ysbyty.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2011