Penodi rheolwr newydd i Aberystwyth wedi i Alan Morgan adael

  • Cyhoeddwyd
Alan MorganFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Alan Morgan ei benodi'n rheolwr y clwb ym mis Tachwedd 2009

Mae Clwb Pêl-droed Aberystwyth wedi penodi Tomi Morgan fel eu rheolwr newydd yn fuan ar ôl diswyddo'r cyn-reolwr Alan Morgan.

Collodd Aberystwyth o gôl i ddim yn erbyn Derwyddon Cefn Newi gartref ar Goedlen y Parc yn rownd yr wyth olaf Cwpan Cymru ddydd Sadwrn.

Yn ogystal, mae canlyniadau Aberystwyth yn Uwchgynghrair Cymru wedi bod yn siomedig yn ystod y tymor gan ennill dim ond pedair o'u 24 gêm hyd yn hyn.

Ar hyn o bryd maen nhw'n y 10fed safle gyda dim ond Caerfyrddin a'r Drenewydd yn is na nhw.

Cafodd Alan Morgan 38 oed, ei benodi'n rheolwr y clwb ym mis Tachwedd 2009.

Wedi ei dymor cyntaf wrth y llwy roedd y tîm yn bedwerydd.

Dywedodd datganiad ar wefan y clwb: "Hoffai'r clwb gofnodi eu gwerthfawrogiad o waith caled Alan yn ystod y 27 mis diwethaf gan ddymuno'r gorau iddo yn ei yrfa yn y dyfodol."

Bu Tomi Morgan yn rheoli Aberystwyth am bum mlynedd yn ystod yr 1980au a dechrau'r 1990au.

Mae Tomi Morgan hefyd wedi rheoli Caerfyrddin (dwywaith), Rhaeadr Gwy, Y Trallwng a Phorthmadog.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol