Tân: Dyn wedi marw o losgiadau

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau fod dyn 33 oed wedi marw o losgiadau difrifol.

Cawson nhw eu galw i Deras Greenfield yn Nhredegar, Blaenau Gwent, am 4.50am fore Mercher lle cafwyd hyd i'r dyn.

Aed ag ef i Ysbyty Nevill Hall, y Fenni, lle bu farw'n ddiweddarach.

"Roedd y Gwasanaeth Tân wedi eu galw a dyw'r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel un amheus," meddai llefarydd ar ran yr heddlu.