Dadorchuddio wrth ddathlu Dewi
- Cyhoeddwyd
Mae seremoni arbennig wedi bod yn Sir Benfro wrth i bobl ddathlu'r nawddsant yng Nghymru a thu hwnt.
Yn Nhyddewi cafodd cysegrfa i Dewi Sant ei dadorchuddio ar ôl iddi gael ei hadnewyddu.
Esgob Tyddewi, y Gwir Barchedig Wyn Evans, oedd yn ei dadorchuddio a'i chysegru ac mae'r gwaith yn benllanw cynllun 18 mis ddechreuodd gydag ymgyrch i godi £150,000.
"Mae hwn yn achlysur pwysig nid yn unig i'r gadeirlan ond i blwyf Tyddewi a phobl Cymru," meddai Deon Tyddewi, y Tra Pharchedig Jonathan Lean.
"Roedd y penderfyniad i adnewyddu cysegrfa ganoloesol Dewi Sant yn mynd law yn llaw gyda'r weledigaeth i addysgu ymwelwyr a phererinion am rôl Dewi Sant a'i ddylanwad parhaus ar ein bywydau ac ar ein cenedl."
Roedd Gorymdaith Flynyddol Dydd Gŵyl Dewi yng Nghaerdydd, yn gadael Neuadd Y Ddinas am 12.30pm.
Alun Thomas yn holi Patrick Thomas
Yn llawn lliw roedd cynrychiolwyr mudiadau yn ymuno yn yr orymdaith i gyfeiliant cerddorion.
Roedd gorymdaith liwgar hefyd yn cychwyn am 1.30pm yn Nôl yr Eryrod yn Wrecsam cyn cyrraedd Llwyn Isaf lle oedd y maer yn annerch.
Llundain
Nos Fercher roedd derbyniad yn Rhif 10 Downing Street.
Croesawodd y Prif Weinidog, David Cameron, Aelodau Seneddol o Gymru a nifer o sêr Cymru o'r sgrin, y llwyfan a chwaraeon, gan gynnwys capten tîm rygbi Cymru, Sam Warburton.
Yn Nhŷ'r Cyffredin cyhoeddodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, y byddai'r Ddraig Goch yn cyhwfan uwchben Downing Street yn ystod dydd Iau.
Anfonodd ei dymuniadau gorau i bobl Cymru, yn enwedig y rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog o amgylch y byd.
"Fel Cymraes, bydd gan Ddydd Gŵyl Dewi wastad le arbennig yn y fy nghalon, gan ei fod yn gyfle i fyfyrio ar ba mor bell yr ydym wedi dod fel cenedl."
Lluoedd
Bydd rhai o aelodau'r lluoedd arfog sydd ar fin gadael am Afghanistan yn cwrdd â'r Tywysog Charles a fydd yn cyflwyno cennin i'r Gwarchodlu Cymreig mewn gorymdaith arbennig.
Bydd 400 o aelodau'r gatrawd yn gadael o fewn y pythefnos nesaf i dreulio chwe mis yn Afghanistan.
Yn y cyfamser, mae aelodau Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines neu'r Marchfilwyr Cymreig, sydd eisoes yn Afghanistan, yn dathlu yn y dull traddodiadol drwy fwyta cennin amrwd.
Dywedodd eu pennaeth, yr Uwchgapten Patrick Bond: "Mae Dydd Gŵyl Dewi wastad yn ddiwrnod arbennig yng nghalendr y Marchfilwyr Cymreig, ac mae gwasanaethu ar y diwrnod yn ei wneud yn bwysicach fyth."
'Iaith fyw'
Mae disgyblion ysgolion Prestatyn wedi gorymdeithio drwy'r dref mewn gwisg draddodiadol ac yn canu caneuon Cymraeg.
Dywedodd pennaeth Ysgol y Llys, Dyfan Phillips: "Mae hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion ddathlu eu Cymreictod a'u treftadaeth drwy fod yn rhan o ddathliadau i nodi'r diwrnod pwysig iawn yma yn y calendr.
"Rydym yn manteisio ar y cyfle i weithio gyda busnesau lleol i godi proffil yr iaith Gymraeg fel iaith fyw ac yn gobeithio y bydd pobl Prestatyn yn mwynhau a gwerthfawrogi'r iaith Gymraeg yn cael ei siarad a'i chanu fel rhan o'r dathliadau."
Mae Ysgrifennydd Gwladol America, Hillary Clinton, wedi anfon cyfarchion ar ran yr Arlywydd a phobl America i Gymru.
"Dyma gyfle i atgyfnerthu'r cysylltiad cryf sydd rhyngddo ni ac i adlewyrchu'r cyfraniad cyfoethog ac amrywiol pobl Cymru i America dros y canrifoedd.
"Mae nifer o'n cyndadau - gan gynnwys y ddau arlywydd Thomas Jefferson a John Adams, yn gallu hawlio eu bod o dras Gymreig.
'Dwy filiwn'
"Mae bron i ddwy filiwn o bobl America heddiw hefyd yn gallu olrhain eu hanes i Gymru a dwi'n falch o ddweud fy mod i'n un ohonyn nhw."
Er mwyn dathlu diwrnod, ac i ddathlu darlledu cyfres BBC Cymru, The Story of Wales, mae Cadw yn caniatáu mynediad i'w holl safleoedd yn rhad ac am ddim.
Mae'r safleoedd yn cynnwys Castell Harlech, Castell Caernarfon, Castell Caerffili, Castell Coch, a Phalas Esgob Tyddewi.
Mae Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cymru, Huw Lewis, yn ymweld ag un arall o'r safleoedd, Castell Rhuddlan, lle bydd côr o blant Ysgol y Castell, Rhuddlan, yn diddanu rhwng 2 a 2.30pm.
"Yn y cyfnod anodd hwn mae'n hawdd weithiau anghofio brwydrau'r gorffennol," meddai Mr Lewis.
"Ond diolch i ymdrechion unigolion di-ri mae gennym etifeddiaeth hanesyddol gyfoethog gystal ag unrhyw wlad yn y byd."
Straeon perthnasol
- 1 Mawrth 2012