Cymru dan-21 4-0 Andorra dan-21

Image copyright Other

Cymru dan-21 4-0 Andorra dan-21

Wrth i Gymru gofio am Gary Speed yn Stadiwm Dinas Caerdydd, roedd y genhedlaeth nesaf o bêl-droedwyr Cymru yn talu eu teyrnged eu hunain yn Wrecsam.

Cafodd tîm dan-21 Cymru fuddugoliaeth ysgubol yn rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth dan-21 Ewrop yn 2013.

Daeth dwy gôl i Billy Bodin i gynorthwyo Cymru i guro Andorra dan-21 o 4-0 ar y Cae Ras.

Daeth dwy gôl Bodin - mab cyn-gefnwr Cymru, Paul - yn yr hanner cyntaf wedi 22 a 33 munud, ac roedd yr ail yn foli wych i gornel y rhwyd.

Ychydig cyn yr egwyl aeth y ddwy yn dair wrth i amddiffynnwr yr ymwelwyr, Xavier Vieira, daro peniad David Stephens i'w rwyd ei hun.

Yr unig siom posib i Gymru oedd mai dim ond un gôl arall ychwanegwyd yn yr ail hanner wrth i Ryan Doble sgorio ar yr awr.

Ond mae'r fuddugoliaeth yn codi Cymru i'r ail safle yn eu grŵp, ac yn cadw'u gobeithion o gyrraedd y rowndiau terfynol y flwyddyn nesaf yn fyw.

Grŵp 3 - Rowndiau Rhagbrofol Pencampwriaeth dan-21 Ewrop 2013
Chwaraewyd Pwyntiau
1. Y Weriniaeth Siec 4 10
2. CYMRU 6 10
3. Montenegro 5 9
4. Armenia 5 8
5. Andorra 6 0