Miloedd o gefnogwyr yn talu teyrnged i gyn-reolwr Cymru, Gary Speed.

Craig Bellamy (canol) gyda meibion Gary Speed, Ed a Tommy Image copyright PA
Image caption Daeth meibion Gary Speed - Ed a Tommy i ymuno gyda chapten Cymru, Craig Bellamy, wrth i'r anthemau gael eu canu yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Daeth miloedd o gefnogwyr a nifer o ser amlycaf Cymru yn dod i dalu teyrnged i gyn-reolwr Cymru, Gary Speed.

Bu Bryn Terfel, Super Furry Animals ac Only Men Aloud ymhlith y rhai fu'n perfformio ar lwyfan arbennig yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn y gêm yn erbyn Costa Rica.

Ar yr egwyl fe gafodd nifer o ser pêl-droed Cymru eu cyflwyno i'r dorf gan gynnwys John Hartson, Ryan Giggs, Mark Hughes, Neville Southall a Robbie Savage.

Roedd teulu Gary Speed hefyd yn y dorf.

Aeth dau fab Speed, Ed a Tommy, ar y cae gydag chapten Cymru Aaron Ramsey a chapten Cymru ar y noson, Craig Bellamy, wrth i'r anthemau gael eu canu yn y stadiwm, cyn i gymeradwyaeth lenwi'r stadiwm cyn y gic gyntaf.

Chwaraeodd Gary Speed ei gêm gyntaf i gymru yn erbyn Costa Rica, ac roedd nifer o elusennau yn elwa o'r noson yng Nghaerdydd - yn eu plith elusen canser McMillan, a'r Ymgyrch Yn Erbyn Byw yn Drist (CALM) sy'n ceisio lleihau'r nifer o ddynion dan 35 sy'n lladd eu hunain.

Image copyright AFP
Image caption Bu Gary Speed yn gapten ar Gymru 44 o weithiau gan sgorio saith gôl cyn cael ei benodi'n reolwr

Roedd Sefydliad Craig Bellamy yn Sierra Leone - a sefydlwyd gan yr ymosodwr - wedi gofyn am rhodd o grysau ac esgidiau pêl-droed, ac fe fyddan nhw hefyd yn elwa o'r noson.

Roedd y gêm ei hun yn eilradd i'r achlysur a'r awyrgylch, ac fe gollodd Cymru'r gêm.

Roedd un gôl yn ddigon i'r ymwelwyr ennill, ac fe ddaeth honno wedi saith munud yn unig diolch i ergyd gan Joel Campbell.

Roedd hi'n ymddangos bod emosiwn y noson yn ormod i chwaraewyr Cymru, ac fe allai'r fantais fod wedi bod yn llawer mwy i Costa Rica wrth iddyn nhw daro'r postyn ddwywaith.

Ond fe gafodd Cymru eu cyfleoedd wedi'r egwyl gyda golwg yr ymwelwyr yn arbed yn dda gan Bellamy a Hal Robson-Kanu, a Steve Morison yn taro'r trawst gyda pheniad.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.