Dur: Chwilio am wirfoddolwyr

  • Cyhoeddwyd
Cwmni Dur TataFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd y cwmni fod y cynnig am wyliau yn wirfoddol

Mae cwmni dur wedi gwahodd tua 5,000 o weithwyr i dderbyn hanner cyflog a gweithio llai o oriau.

Dywedodd cwmni Tata fod y cynnig i weithwyr ym Mhort Talbot a Llanwern oherwydd "cyflwr y farchnad".

Mae'n dilyn trafodaethau gyda'r undebau.

Ar hyn o bryd mae Tata'n cyflogi tua 3,500 ym Mhort Talbot a 1,500 yn Llanwern.

Dywedodd y cwmni eu bod yn gobeithio dymchwel ac ailgodi Ffwrnais Rhif Pedwar ym Mhort Talbot ym Mehefin.

Eu gobaith yw y bydd mwy o archebion erbyn Hydref pan fydd y safle yn cynhyrchu i'r eithaf.

Dywedodd llefarydd y gallai gweithwyr wneud cais am wythnos neu fwy o wyliau ym mis Mawrth.