Carcharu 22 am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau
- Cyhoeddwyd

Mae 22 o bobl wedi eu carcharu am gyfanswm o 124 o flynyddoedd am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau.
Yn Llys y Goron Caernarfon dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes QC: "Rhwng Tachwedd 2010 a Mai 2011 roedd cynllun proffesiynol ar raddfa fawr i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A o Lerpwl a Sheffield a'u dosbarthu ar strydoedd y gogledd."
Daethpwyd o hyd i gyffuriau gwerth dros £400,000 a £50,000 o arian parod.
Cafodd arweinwyr dau gang, David Jones, 31 oed o Gyffordd Llandudno, a Paul Williams, 37 oed o Fangor, 10 mlynedd a chwe blynedd o garchar.
Smyglo
Clywodd y llys fod Williams eisoes yn y carchar am naw mlynedd ond yn dal i reoli cyflenwi cocên a heroin wrth ddefnyddio ffonau symudol oedd wedi eu smyglo i mewn i'r carchar.
Cafodd Philip Savin, 33 oed o Altway, Lerpwl, 12 mlynedd o garchar a chafodd diffynyddion eraill ddedfrydau rhwng 15 mis a 10 mlynedd a hanner.
Roedd hyd at 17 o blismyn yn gweithio "yn y dirgel" a chafodd y diffynyddion eu ffilmio'n gyfrinachol.
Canmolodd y barnwr eu gwaith.
Mae'r heddlu wedi dweud bod y dedfrydau'n gwneud gwahaniaeth mawr i lefel y cyffuriau ar y strydoedd.
Arian anghyfreithlon
Cafodd cariad David Jones, Theresa Kelly, 22 oed o Gyffordd Llandudno, ddedfryd ohiriedig o 10 mis.
Roedd wedi pledio'n euog i gyhuddiad o brosesu arian anghyfreithlon.
Roedd Michael Creamer, 21 oed o Gonwy, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o gyflenwi cocên ond ni chafodd ei ddedfrydu.
Mae yn y ddalfa tan wrandawiad arall.