Pedwar yn y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig

Sioned Gwyn Davies Image copyright Other
Image caption Mae'r mezzo-soprano Sioned Gwyn Davies yn dod o Fae Colwyn

Mae pedwar cantor wedi eu dewis i gystadlu yn rownd derfynol y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig.

Dyma'r gystadleuaeth fydd yn penderfynu pwy fydd yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd.

Rhian Lois o Bont-rhyd-y-groes, Ceredigion, Fflur Wyn o Gaerfyrddin, Sioned Gwyn Davies o Fae Colwyn a Garry Griffiths o Benbre yw'r pedwar.

Dywedodd Rhian Lois: "Dwi'n ymfalchio ac yn teimlo'n freintiedig fy mod yn un o'r pedwar a ddewiswyd i gystadlu yn y rownd derfynnol yn Neuadd Dewi Sant ym mis Mehefin.

"Mae'r gystadleuaeth yn fyd enwog ac yn cael ei chydnabod fel un safonol iawn."

Ychwanegodd y gallai'r gystadleuaeth fod yn hwb i'w gyrfa.

Mae cyn-enillwyr Cystadleuaeth i Gantorion Cymreig yn cynnwys enwogion fel Bryn Terfel ym 1988 a Gwyn Hughes Jones ym 1996.

Hyd yma, nid oes unrhyw ganwr o Gymru wedi ennill gwobr BBC Canwr y Byd Caerdydd.

Image copyright Other
Image caption Bariton yw Garry Griffiths sy'n dod o Benbre

Y beirniaid ar gyfer y rownd derfynol yw Rebecca Evans, Della Jones, Donald Maxwell a John McMurray dan arweiniad Julian Smith.

Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £2000 a thlws, a bydd y tri arall yn derbyn gwobr o £750 yr un.

Bydd rownd derfynol y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig yn cael ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ar ddydd Llun, Mehefin 11, 2012 am 7.30pm.

Mae tocynnau ar gyfer y noson ar werth ar hyn o bryd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.