Ffliw: Dau wedi marw mewn cartref gofal yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae dau berson wedi marw yn dilyn achosion o'r ffliw mewn cartref gofal yng Nghaerdydd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio wedi i 20 o'r 33 o bobl sy'n byw yng Nghartref Dorothy Lewis yn Nhreganna ddatblygu symptomau'r ffliw ar Chwefror 19.
Bu'n rhaid i naw o bobl fynd i'r ysbyty, ac mae dau o'r rheini wedi marw.
Mae profion wedi dangos mai math arferol o ffliw ydoedd, ac mae hwnnw wedi ei gynnwys yn y brechiad eleni.
Yn ogystal â'r trigolion mae naw o'r 40 aelod o staff yn y cartref hefyd wedi datblygu symptomau tebyg, ond does yr un wedi gorfod mynd i'r ysbyty hyd yma.
Cafodd trigolion y cartref sydd heb ddatblygu symptomau frechiad Tamiflu er mwyn lliniaru'r symptomau allai ddatblygu.
'Salwch difrifol'
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru y gallai symptomau hynny gynnwys twymyn, peswch, dolur gwddf, cur pen, poenau yn y cyhyrau, blinder a chwydu.
Roedd Dr Marion Lyons, pennaeth rheoli clefydau heintus gyda ICC, yn cynghori pobl i ofalu am hylendid, ac i ddefnyddio hancesi papur wtrh beswch neu disian er mwyn rhwystro'r ffliw rhag lledaenu.
"Mae mwyafrif y bobl iach yn gwella o'r ffliw heb unrhyw drafferthion," meddai.
"Ond mae salwch difrifol yn gallu digwydd o bryd i'w gilydd, yn enwedig ymysg grwpiau bregus fel merched beichiog neu'r rhai sydd â chlefydau cronig."
Dywedodd ICC eu bod yn gweithio gyda'r cartref i fonitro'r sefyllfa yno.