Heddlu i rwystro partïon yng Nghastell Dinas Brân
- Cyhoeddwyd

Bydd yr heddlu a wardeniaid cefn gwlad yn rhwystro gwersylla answyddogol a phartïon rhag cael eu cynnal ger bryngaer Oes Haearn yn Sir Ddinbych.
Maent yn honni bod y gwersylloedd dros nos yn niweidio tir a bod pobl yn gadael llanast ar eu holau yng Nghastell Dinas Brân yn Llangollen.
Mae wardeniaid yn gorfod glanhau a chasglu poteli sydd wedi eu torri, porfa sydd wedi ei llosgi a hyd yn oed pebyll.
Ddydd Gwener bydd nifer o bobl yn helpu glanhau'r safle sy'n denu 33,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
'Ymateb'
Mae Castell Dinas Brân yn lleoliad poblogaidd i gerddwyr am ei fod o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.
Dywed Cyngor Sir Ddinbych fod y broblem sbwriel yn creu argraff wael ar ymwelwyr i'r castell.
Dywedodd yr heddwas cymunedol, y Cwnstabl James Lang: "Mae hwn yn fater sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrth gymdeithasol ac fe fyddwn ni'n ymateb i adroddiadau o bartïon yn cael eu cynnal ac fe fyddwn ni'n symud pobl oddi ar y safle.
"Os yw pobl yn gweld unrhyw weithred wrth gymdeithasol rydyn ni'n eu hannog i gysylltu â'r heddlu ar 101 ac fe fyddwn ni'n gwneud ein gorau glas i ddelio â'r mater."
Bydd gweithwyr cefn gwlad y cyngor yn cyd-weithio â'r heddlu, Cyngor Tref Llangollen, Cadw Cymru'n Daclus a Thîm Tref Daclus Llangollen i sicrhau eu bod yn cadw llygad ar yr ardal.
Misol
Mae gwirfoddolwyr yn casglu sbwriel yn y dref yn fisol ac mae'r digwyddiad diweddaraf yn cael ei gynnal yng Nghastell Dinas Brân ddydd Gwener.
Dywed swyddog cefn gwlad y cyngor sir, Rhun Jones: "O ran safleoedd cefn gwlad mae Castell Dinas Brân yn cael ei ddefnyddio mwy na'r un ardal arall yn Llangollen.
"Mae mwy na 30,000 o bobl yn ymweld â'r castell bob blwyddyn, llawer ohonynt yn dod o dramor.
"Yn aml, y peth cyntaf maent yn ei weld pan maen nhw'n cyrraedd y safle yw môr o duniau a photeli, llawer ohonynt wedi eu torri."
"Rydyn ni hefyd yn darganfod olion porfa sydd wedi ei llosgi yno yn ogystal â dillad a phebyll."
Straeon perthnasol
- 28 Gorffennaf 2006