Cwmni Contour yn diswyddo 62 o weithwyr yng Nghwmbrân
- Cyhoeddwyd

Bydd cwmni sy'n cynhyrchu seddau i awyrennau yn diswyddo 62 o weithwyr yn eu ffatri yng Nghwmbrân.
Dywedodd Contour Aerospace, sy'n cyflogi 1,000 o staff a chontractwyr yn y ffatri, eu bod wedi ystyried dyfodol tymor hir y busnes.
Mynnodd y cwmni y bydd staff sy'n dioddef yn cael cynnig cefnogaeth bersonol yn ystod cyfnod ymgynghori sy'n para tan Fawrth 30.
Bydd Contour hefyd yn cael gwared â 18 o'r 200 o weithwyr yn eu ffatri yn Camberley, Surrey.
Cystadleuol
Dywed y cwmni, sy'n cyflenwi seddau i nifer o gwmnïau awyrennau mwya'r byd, eu bod yn parhau i fod "wedi ymrwymo i adeiladu eu marchnad fyd-eang er mwyn datblygu'r cwmni i'w llawn botensial".
Ychwanegodd fod y penderfyniad i gael gwared ag 80 o swyddi yn y ddwy ffatri yn benllanw proses 18 mis i sicrhau y bydd y busnes yn gystadleuol yn y tymor hir.
Bydd y diswyddiadau yn effeithio ar weithwyr yn y mwyafrif o adrannau'r cwmni.
Ym mis Rhagfyr y llynedd, cyheoddwyd y byddai Contour yn cael ei werthu i'r cwmni o Ffrainc, Zodiac Aerospace SA.
Ar y pryd, dywedodd uwch-reolwyr y cwmni y byddai'r busnes yn parhau fel arfer, ac nad oedd disgwyl unrhyw effaith ar y gweithlu o'r gwerthiant.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2009