Yr Heddlu'n ymchwilio yn dilyn marwolaeth moch daear
- Cyhoeddwyd

Mae lladd neu niweidio moch daear yn anghyfreithlon
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio wedi i ddau fochyn daear meirw gael eu canfod yng Nghas-gwent.
Cafwyd hyd i'r anifeiliaid ar ffordd y B4293 ar Chwefror 18.
Mae'r heddlu'n credu gallai brechlyn abwyd wedi'i ddefnyddio i ddal y moch daear cyn iddynt gael eu taro ar eu pennau.
Dywedodd swyddog bywyd gwyllt Heddlu Gwent, cwnstabl Pete Lewis, y gallai unrhyw un sy'n eu cael yn euog o ladd neu niweidio moch daear wynebu dirwy o £5,000 a chael eu carcharu am chwe mis.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol