Tân difrifol mewn tŷ yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn ceisio taclo tân difrifol mewn tŷ yn ardal Bonymaen yn Abertawe.
Cafodd tair injan dân - o Dreforys, Canol Abertawe a Gorllewin Abertawe - eu hanfon i'r digwyddiad ar Ffordd Myrddin wedi iddyn nhw gael eu galw am 7.50am fore Gwener.
Erbyn 9:05am roedd y rhan fwyaf o'r diffoddwyr wedi gadael y safle.
Daeth cadarnhad gan y Gwasanaeth Tân na chafodd neb anaf yn y digwyddiad.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol