BBC Cymru Fyw

Dim anafiadau i Gaerdydd cyn croesawu West Ham

Published
image copyrightGetty Images
image captionDywedodd Malky Mackay fod ei garfan yn holliach ar y cyfan
Mae rheolwr Clwb Pêl-Droed Caerdydd, Malky Mackay, yn gobeithio y bydd mwyafrif llethol ei garfan yn holliach ar gyfer ymweliad West Ham yn y bencampwriaeth ddydd Sul.
Wedi ymdrechion arwrol y tîm yn rownd derfynol Cwpan Carling y penwythnos diwethaf, mae Mackay yn mynnu nad oes gan ei chwaraewyr unrhyw anafiadau newydd.
Mae West Ham yn ail yn y tabl a Chaerdydd yn chweched bellach ar ôl colli tair o'u pedair gêm ddiwethaf.
Dywedodd Mackay wrth BBC Cymru: "Mae pawb yn teimlo'n well ac roedd 99.9% o broblemau Wembley yn ymwneud â chramp - does dim problemau mawr."

Gemau rhyngwladol

Ond cyn cadarnhau'r farn yna, bydd rhaid i Mackay ddisgwyl i weld tynged rhai o'i chwaraewyr a gafodd fân anafiadau yn ystod y gemau rhyngwladol ganol wythnos.
Mae'r rhain yn cynnwys Kenny Miller, Aaron Gunarsson a Don Cowie.
Un fydd yn bendant yn absennol yw Stephen McPhail.
Mae'r chwaraewr 32 oed yn dioddef o glefyd Sjorgen's Syndrome.
Er ei fod yn hyderus o fedru chwarae eto cyn diwedd y tymor, mae'r gêm yn erbyn West Ham wedi cyrraedd yn rhy fuan iddo.