
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Barn wahanol dau ar roi organau
2 Mawrth 2012 Diweddarwyd 09:48 GMT
Mae mwyafrif pobl Cymru yn cefnogi'r newid sydd ar y gweill yn y drefn o roi organau yn ôl arolwg barn BBC Cymru.
Roedd 63% o blaid cyflwyno system newydd sy'n golygu cofrestru os nad ydi unigolyn yn awyddus i'w horganau gael eu defnyddio i'w trawsblannu ar ôl marwolaeth.
Nia Thomas gafodd drafodaeth am y drefn o roi organau gyda Dylan Heddwyn sydd wedi cael aren a phancreas newydd bron i 14 mlynedd yn ôl â'r academydd Dr Iestyn Daniel sy'n gwrthwynebu newid y drefn bresennol.