
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mwyafrif o blaid talu'r 5c am fag
2 Mawrth 2012 Diweddarwyd 09:52 GMT
Mae Arolwg Barn Gŵyl Ddewi BBC Cymru yn awgrymu fod pobl Cymru wedi derbyn y taliad sy'n cael ei godi am fagiau un-defnydd.
Dim ond 34% oedd yn dymuno gweld y taliad yn cael ei ddileu.
Roedd 64% yn credu bod gofyn 5 ceiniog am fag yn deg.
Alun Rhys fu'n cael barn siopwyr a defnyddwyr ym Mhwllheli.