Artist dall yn gwireddu breuddwyd

  • Cyhoeddwyd
ArtistiaidFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r grŵp celf yn agor oriel mewn canolfan siopa

Mae artist dall yn herio ei hanabledd er mwyn chwarae rhan flaenllaw mewn grŵp celf.

Yn ogystal â gweithio fel athrawes gelf ac fel artist, mae Ann Morris, 57 oed, yn un o geffylau blaen Rhyl Create.

Bu'r gyn-nyrs Ms Morris yn allweddol wrth helpu i agor oriel newydd yng Nghanolfan Siopa'r Rhosyn Gwyn yn y Rhyl.

Bydd y grŵp yn agor yr oriel yn swyddogol trwy gynnal arddangosfa breifat am 5.30pm ddydd Mawrth.

Grŵp o dros 40 o artistiaid sy'n rhannu'r un diddordeb, y rhan fwyaf ohonynt yn byw yn lleol, yw Rhyl Create.

Ymysg aelodau'r grŵp mae peintwyr, gwneuthurwyr gemwaith, artistiaid tecstilau, gweithwyr coed a gwneuthurwyr cardiau.

Boddhad

Mae bod yn aelod o'r grŵp yn dod â llawer o foddhad i Ms Morris.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r grŵp yn gobeithio bydd y safle newydd yn denu pobl i weld y gwaith

Dechreuodd ei phroblemau iechyd 20 mlynedd yn ôl pan ddioddefodd sawl strôc ar ôl ei gilydd.

Mae hefyd yn dioddef o glefyd siwgr math 2, sydd wedi achosi ei chyflwr llygaid, Retinopathi Diabetig.

O ganlyniad, mae hi'n hollol ddall yn ei llygad chwith a dim ond yn gallu gweld ychydig gyda'r llall.

Dywedodd Ms Morris: "Dw i'n gallu gweld dros y ffordd, bron iawn, ond alla i ddim gweld y llawr.

"Ond dw i'n addasu'n gyflym iawn i beth bynnag sy'n digwydd i mi. Dw i ddim yn gadael i unrhyw beth fy nal i'n ôl."

Mae Rhyl Create wedi cael cyngor a chefnogaeth gan WINSENT (Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Gymdeithasol Cymru Iwerddon) i'w galluogi i agor yr oriel newydd.

Cyn hyn, oriel ar Stryd Cinmel oedd gan y grŵp ond maent yn gobeithio cael mwy o sylw wedi iddynt symud i'r ganolfan siopa.

'Canolbwynt creadigrwydd'

Dywedodd Sheba Plumpton, Cadeirydd Rhyl Create: "Bydd llawer ohonom yn mynychu cwrs manwerthu Mary Portas, lle byddwn yn dysgu am bethau ymarferol fel arddangos nwyddau yn y ffenestr, a fydd yn ein helpu i wneud y gorau o'r hyn sydd gennym."

Mae'r Cynghorydd David Thomas, sy'n Arwain ar Adfywio a Thwristiaeth ar Gyngor Sir Ddinbych, wrth ei fodd fod y grŵp ar fin symud:

"Mae Rhyl Create yn ganolbwynt i gelf a chreadigrwydd ac mae'n wych eu bod yn gwireddu eu breuddwydion.

"Mae'r ffaith fod y grŵp yn symud i oriel newydd yn ddatblygiad cyffrous iawn ac yn newyddion gwych i'r dref gyfan.

Bydd drysau'r oriel yn agor i'r cyhoedd am 9am ar 7 Mawrth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol