Penwythnos o ddigwyddiadau cerddorol
- Cyhoeddwyd

Mae mwy na 1,000 o gerddorion o Gymru'n cymryd rhan mewn digwyddiad Prydeinig.
Bydd cyngherddau a pherfformiadau ar Fawrth 3 a 4 yn rhan o'r Olympiad Diwylliannol.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi trefnu cyfres o berfformiadau wedi eu hysbrydoli gan gerddoriaeth Cymru.
Yng Nghaerdydd, Caernarfon a Wrecsam mae première byd wedi ei drefnu gan y cyfansoddwr John Hardy a'r darn cerddorol yn cynnwys cerddoriaeth Catatonia, The Manic Street Preachers a gwaith Priodas Figaro.
Mae'r digwyddiad yn agored i unrhyw un ac mae copïau o'r gerddoriaeth ar gael i'w lawrlwytho o wefan Opera Cenedlaethol Cymru.
Yn y cyfamser, mae Sinfonia Cymru, y mae eu canolfan yng Nghaerdydd, yn mynd i Gaernarfon a'r Wyddgrug, ac Ensemble Cymru, y mae eu canolfan ym Mangor, yn perfformio yng Nghasnewydd a Cheredigion.
Yn ystod y penwythnos mae première darn comisiwn i'r BBC gan y cyfansoddwr Karl Jenkins, Songs of the Earth.
Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC sy'n perfformio.
Ymhlith digwyddiadau eraill mae Creu Cerddoriaeth Cymru a'r Tŷ Cerdd yn arwain y Gymanfa Ganu Genedlaethol.
Hefyd mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn gwahodd enillwyr Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC i berfformio yn ei neuadd gyngerdd newydd.
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Rwyf wrth fy modd fod BBC Cymru Wales a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn gweithio ochr yn ochr â chynifer o bartneriaid ardderchog i gyflwyno'r penwythnos hudol o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru.
Mae'n addo bod yn ddathliad cofiadwy diwylliant a cherddoriaeth yr oes sydd ohoni."
Mae rhestr lawn digwyddiadau'r penwythnos ar wefan Radio 3.