'Abertawe ddim yn ddiogel' yn ôl Brendan Rodgers

  • Cyhoeddwyd
Brendan RodgersFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Gêm galed o flaen Abertawe ddydd Sadwrn

Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, yn mynnu fod gan ei dîm lawer o waith i'w wneud cyn sicrhau eu dyfodol yn yr Uwchgynghrair.

Mae'r Elyrch yn 14eg yn y tabl - naw pwynt yn glir o ardal y gwymp, ond maen nhw wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf.

Fe fyddan nhw'n teithio i Wigan ddydd Sadwrn - tîm sydd ond wedi ennill un gêm ar eu tomen eu hunain drwy'r tymor.

Ond dywedodd Rodgers: "Dydyn ni ddim yn dathlu cyn pryd.

"Mae pobl yn dweud ein bod yn ddiogel gyda 12 gêm yn weddill, ond mae gennym lawer o waith i'w wneud, a rhaid sicrhau ein bod yn dal i ennill pwyntiau."

Martinez

Mae Rodgers yn disgwyl gêm anodd yn erbyn y tîm sy'n cael eu rheoli gan gyn-reolwr Abertawe, Roberto Martinez.

"Mae Roberto wedi gwneud gwaith ardderchog dros y tymhorau diwethaf," meddai Rodgers am y Sbaenwr a adawodd Abertawe yn 2009.

"Er eu bod wedi cael cyfres o beidio ennill gemau, mae e wedi aros yn bositif, ac fe fydd hon yn un o'r gemau anoddaf i ni gael ers tro.

"Bydd y ddau ohonom yn brwydro am ein dyfodol."

Daeth hwb i obeithion Rodgers gyda'r newyddion y bydd y golwr Michel Vorm yn dychwelyd i'r tîm.

Roedd Vorm yn absennol o'r golled o 2-0 yn erbyn Stoke oherwydd feirws.

Ond roedd newyddion drwg hefyd gan fod Kemy Agustien yn debyg o fethu'r rhan fwyaf o weddill y tymor.

Cafodd y chwaraewr canol cae 25 oed lawdriniaeth ar anaf i'w ffêr yn gynharach yn yr wythnos, a dywedodd y llawfeddyg bod y difrod yn waeth nag yr oedd wedi ei ddisgwyl.

Yn wreiddiol roedd disgwyl i Agustien fethu tair neu bedair wythnos, ond cadarnhaodd Rodgers na fydd ar gael am fwy o amser na hynny.