£50 miliwn o enillion troseddol?

  • Cyhoeddwyd
William O'GradyFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafwyd William O'Grady yn euog ym mis Rhagfyr y llynedd

Mae dyn oedd yn rhedeg un o gwmnïau gwastraff mwyaf y gogledd yn wynebu achos oherwydd £50 miliwn o enillion troseddol.

Ym mis Rhagfyr y llynedd fe gafwyd William O'Grady o Gaernarfon yn euog o daflu gwastraff yn anghyfreithlon.

Cafodd ddedfryd o flwyddyn o garchar gohiriedig a gorchymyn i wneud 300 awr o waith di-dâl yn y gymuned.

Fe gafodd ei wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am y pum mlynedd nesaf.

Trafodaeth

Yng ngrandawiad Llys y Goron Yr Wyddgrug, oedd yn eistedd yng Nghaer, honnodd yr erlynwyr (Asiantaeth yr Amgylchedd) fod enillion ei droseddau yn £50 miliwn ond nid oedd y diffynnydd yn derbyn y ffigwr.

Nod yr amddiffyn yw cynnal trafodaeth gyda'r erlyniad er mwyn osgoi cyflogi archwilydd fforensig i gynorthwyo wrth baratoi eu hachos.

Dywedodd y Barnwr Philip Richards y byddai'n caniatáu pythefnos i'r amddiffyn gyflwyno'u hachos neu fe fyddai'r achos yn cael ei restru unwaith eto ar gyfer y llys.

Fe bennodd dau ddiwrnod ym mis Medi ar gyfer gwrandawiad arall pan fyddai'r barnwr ddedfrydodd yn yr achos gwreiddiol - Niclas Parry - yn penderfynu faint yr oedd y troseddwr ar ei ennill a beth fyddai'r asedau ar gael cyn eu hatafaelu.

Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn gofyn am gostau cyfreithiol o fwy na £400,000.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol