Prifysgol Casnewydd yn pryderu am gyllid
- Cyhoeddwyd

Mae prifysgol sydd wedi cytuno i gwtogi ffioedd cyrsiau £1,100 y flwyddyn nesaf yn annog Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ailystyried newidiadau i lefydd myfyrwyr.
Fe fydd ffioedd ym Mhrifysgol Cymru Casnewydd ar gyfartaledd yn £7,500 o 2013 ymlaen.
Maen nhw'n dweud eu bod yn ymateb i gynlluniau i gynnig llefydd ychwanegol i fyfyrwyr am gwtogi ffioedd ond mae'n golygu y byddan nhw'n colli 20% o'u myfyrwyr llawn amser.
Yn ôl y cyngor fe fyddai'r holl sefydliadau yn elwa.
Syniad y cyngor yw y byddai'r prif bynciau fel gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg ac ieithoedd modern yn parhau i gael y buddsoddiad angenrheidiol.
Mae'r pynciau yma yn cyfrif am ryw 50% o'r myfyrwyr llawn amser israddedig yng Nghymru, llefydd a fydd yn cael eu gwarchod.
Mae gweddill y llefydd mewn pynciau sydd ddim yn flaenoriaeth fel y celfyddydau a'r dyniaethau.
Targedau
O'r rheini, fe fydd hanner y llefydd ar gael i brifysgolion sydd wedi gostwng eu ffioedd ar gyfartaledd o dan £7,500.
Bydd y gweddill i brifysgolion sy'n cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru sy'n cynnwys incwm ymchwil, cyfanswm incwm a nifer myfyrwyr tramor.
Pryder Casnewydd yw nad yw eu sgôr yn uchel o ran y targedau ac nad yw'r rheini yn cynnwys targedau lle mae'r brifysgol yn llwyddo.
O ganlyniad eu pryder yw y byddan nhw'n colli mwy o fyfyrwyr nag y byddan nhw'n ennill o ostwng eu ffioedd.
Eu rhybudd yw y byddan nhw'n colli o bosib 20% - hyd yn oed 40% - o lefydd llawn amser yn 2013 yn hytrach na derbyn mwy o fyfyrwyr o ganlyniad i'r drefn newydd.
Mae 'na fwriad i uno Prifysgol Cymru Casnewydd gyda phrifysgolion eraill yn ne Cymru.
Mae'r brifysgol yn dweud bod hyn yn cyfateb i golli miloedd o bunnoedd o gyllid a fydd yn cael effaith ar gyrsiau a staff addysgol.
"Dwi ddim yn credu am eiliad bod 'na fwriad i golli llefydd yn y brifysgol....a fydd yn golygu llai o gyfleoedd i bobl leol a'r economi leol," meddai Dr Peter Noyes, Is-Ganghellor Prifysgol Casnewydd.
Ond mae Dr Noyes yn pryderu y bydd Casnewydd yn colli.
Dywedodd Yr Athro Philip Gummett, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, y gallai'r drefn newydd arwain at gynnydd yn y cyllid sydd ar gael i addysg uwch yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- 13 Chwefror 2012
- 13 Gorffennaf 2011