Ryan Giggs yn methu hawlio iawndal
- Cyhoeddwyd

Mae'r Uchel Lys wedi gwrthod cais Ryan Giggs am iawndal oddi wrth bapur newydd y Sun.
Roedd y pêl-droediwr 38 oed wedi honni bod y papur wedi am amharu ar ei breifatrwydd ar ôl datgelu manylion ei berthynas gyda'r fodel o Lanelli, Imogen Thomas.
Dadl y papur oedd bod honiad Mr Giggs yn "ddi-sail".
Yn wreiddiol, roedd y chwaraewr canol cae wedi ceisio gwahardd cyhoeddi ei enw ond roedd yn cael ei adnabod ar wefannau cymdeithasol.
Yn yr Uchel Lys roedd cyfreithiwr Mr Giggs, Hugh Tomlinson QC, wedi dadlau bod y papur "wedi camddefnyddio" gwybodaeth breifat mewn erthygl.
'Sylw enfawr'
Dywedodd Mr Tomlinson fod Mr Giggs yn ceisio iawndal am fod y wybodaeth wedi hail-gyhoeddi mewn papurau newydd eraill ac ar y we.
Awgrymodd fod erthygl y Sun wedi arwain at "sylw enfawr" yn y cyfryngau a bod yr iawndal yn ymwneud ag "amddiffyn yn effeithiol" ei hawl i breifatrwydd.
Dywedodd Richard Spearman QC ar ran ran News Group Newspapers, cyhoeddwyr y Sun, nad oedd yr erthygl am berthynas Ms Thomas ag un o chwaraewyr yr Uwchgynghrair ac nad oedd cyfeiriad at enw Mr Giggs.
Dywedodd fod y Sun wedi "ymddwyn yn gywir" ac nad oedd yn gyfrifol am yr hyn ddigwyddodd ar ôl i'r erthygl gael ei chyhoeddi.
Mewn datganiad ysgrifenedig ddydd Gwener, dywedodd y barnwr ei fod wedi "gwrthod cais Mr Giggs am iawndal".
Roedd Mr Giggs wedi cael gwaharddeb yn atal cyhoeddi ei enw ar y sail bod Ms Thomas wedi ceisio ei flacmelio.
Ond llwyddodd cyn Miss Cymru yn y llys ac ym mis Rhagfyr 2011 derbyniodd Mr Giggs nad oedd hi wedi ei flacmelio.
Straeon perthnasol
- 21 Chwefror 2012
- 15 Rhagfyr 2011
- 23 Mai 2011
- 16 Mehefin 2011