Joci'n benderfynnol o ddychwelyd i'r cyfrwy

  • Cyhoeddwyd
Isabel TompsettFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Isabel Tompsett yn anymwybodol ac yn methu anadlu wedi'r ddamwain

Mae'r joci amatur - y bencampwraig Isabel Tompsett - yn benderfynol o ddychwelyd i'w champ wedi damwain ddifrifol ym mis Mai.

Bu'n rhaid i'r joci o Gaerfyrddin, 29 oed, gael ei hadfywio ddwywaith wedi ddamwain ar gwrs Fakenham ac roedd mewn coma am chwe wythnos gydag anafiadau difrifol i'w phen.

Naw mis yn ddiweddarach, mae'r frwydr i wella'n parhau.

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Rwy'n sylweddoli fy mod i'n gwella'n ara deg."

Ar hyn o bryd mae'n gwella yn Oaksey House, canolfan arbennig ar gyfer jocis gydag anafiadau yn Lambourn, Sir Buckingham.

Parlysu

Yn syth wedi iddi ddisgyn ym mis Mai roedd yn anymwybodol ac yn methu anadlu ar y cwrs ac fe gyfaddefodd wedyn ei bod yn teimlo'n ffodus i fod yn fyw.

Am saith wythnos roedd yn Ysbyty Addenbrooke's yng Nghaergrawnt gyda'i theulu yn symud i Newmarket gerllaw er mwyn bod gyda hi.

Roedd wedi ei pharlysu ar hyd ei ochr chwith ac wedi colli golwg un llygad ond, yn rhyfedd, fe ddechreuodd gerdded eto o fewn chwe mis.

"Rwy'n llawer gwell erbyn hyn," meddai wrth BBC Cymru.

"Rwyf yn Oaksey House nawr lle mae'n rhaid i chi ddelio gyda choginio a glanhau drosoch eich hunan.

"Maen nhw'n dda iawn gyda ffisiotherapi a dydyn nhw ddim yn dysgu tasgau sydd ddim yn angenrheidiol."

'Drwg iawn'

Dywedodd sylwebydd rasio ceffylau Channel 4, Derek Thompson, ei fod yn cofio'r ddamwain.

"Roedd hi'n ymddangos bod y ceffyl wedi neidio'n iawn ond rhywsut glaniodd Isabel ar ei phen.

"Roeddwn i'n gwybod yn syth fod y sefyllfa'n ddrwg iawn.

"Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach ei bod wedi 'marw' ddwywaith ar y cwrs ac mae'r digwyddiad yn un y byddaf byth yn ei anghofio. Hwn oedd fy niwrnod gwaethaf erioed yn y byd rasio."

Un oedd yn cystadlu yn Fakenham ar y diwrnod oedd y pencampwr AP McCoy sy'n llawn edmygedd o'r joci o Gymru.

"Roedd Isabel yn reidiwr amatur da - fe wnaeth gystadlu'n aml gan ennill sawl ras," meddai.

Milfeddyg

Roedd hi hefyd yn wyneb cyfarwydd ar gyrsiau rasio ac mewn canolfannau ceffylau yng Nghymru yn ei swydd broffesiynol, milfeddyg.

Dychwelyd i'r gwaith hwnnw yw ei nod mawr ond mae'n awyddus i ddychwelyd i'w champ.

Ychwanegodd Isabel, oedd yn bencampwraig amatur y DU dros y clwydi yn nhymor 2009-10: "Dydw i heb anghofio sut i wneud y pethau milfeddygol.

"A gobeithio dros yr wythnosau nesaf fe fydda i'n gallu mynd ar gefn ceffyl distaw. Dyw e ddim yn fy mhoeni."