Panasonic yn diswyddo 160

  • Cyhoeddwyd
Logo PanasonicFfynhonnell y llun, Other

Mae cwmni Panasonic wedi cyhoeddi y byddan nhw'n rhoi'r gorau i gynhyrchu cyfnewidfeydd teleffôn yng Nghasnewydd.

Fe fydd 164 o bobl yn colli eu swyddi.

Yn ôl y cwmni, diffyg galw am y cynnyrch a marchnad fwy cystadleuol sy'n gyfrifol am y penderfyniad.

Bydd y gwaith oedd yn cael ei wneud yng Nghasnewydd yn cael ei symud i Fietnam.

Cadarnhaodd y cwmni y byddai 90 o swyddi yn aros yng Nghasnewydd er mwyn darparu gwasanaethau fel cefnogaeth dechnegol ac ati.

Ailstrwythuro

Bydd yr ailstrwythuro'n dod i ben erbyn diwedd Medi.

Dywedodd Rosemary Butler, AC Gorllewin Casnewydd: "Mae hon yn ergyd ysgytwol yn ystod cyfnod economaidd anodd.

"Mae hyn yn newyddion ofnadwy i'r gweithwyr a bydda i'n codi'r mater gyda'r Gweinidog Busnes, Menter a Thechnoleg."

Collodd 140 eu swyddi yn y ffatri yn 2009.

Mae'r ffatri yng Nghasnewydd wedi bod ar agor ers 1987 ac mae'r staff yn gadael am 1:30pm brynhawn Gwener.

Bydd cyfnod ymgynghori o 90 niwrnod gydag undeb Unite.

Hon yw'r ail ergyd i'r ardal o fewn 24 o oriau. Cyhoeddodd Contour Aerospace y byddai 62 yn colli eu swyddi yng Nghwmbrân, Torfaen.