Carnifal poblogaidd yn Y Trallwng yn cael ei ganslo
- Cyhoeddwyd

Mae carnifal poblogaidd ym Mhowys wedi cael ei ganslo oherwydd roedd i fod i gael ei gynnal yr un diwrnod â dathliadau Jiwbilî'r Frenhines.
Fel rheol mae Carnifal Y Trallwng ar ddydd Llun ola mis Mai, ar Ŵyl y Banc ond eleni mae Gŵyl y Banc ar Fehefin 4 ar gyfer y jiwbilî.
Dywedodd y trefnwyr eu bod wedi canslo oherwydd y dathlu yng Nghastell Powis ger Y Trallwng.
Yn ôl llywydd y carnifal, Tegwyn Evans, roedd y penderfyniad ar ôl cyfarfod nos Iau.
"Doedd yna ddim dewis," meddai.
'Newid dyddiad'
"Oherwydd ei bod yn flwyddyn jiwbilî roedd hi'n mynd i fod yn anodd cystadlu gyda'r digwyddiad yn y castell.
"Mi geision ni newid dyddiad y carnifal i Fai 7 ond doedd dim modd cael trwydded ar gyfer parêd gan yr heddlu na'r cyngor sir.
"Dewis arall oedd cynnal y carnifal ar Ŵyl y Banc ym mis Awst ond roedd pobl oedd yn arfer mynychu neu'n perfformio yn methu bod yno."
Deellir bod cyngor y dre yn cynnal cyfarfod ddiwedd y mis i drafod y carnifal ond, yn ôl Mr Evans, mae'n annhebygol y bydd yna unrhyw newid meddwl.
Cyngor y dre a Chastell Powis sy'n trefnu dathlu'r Jiwbilî ar lawntydd y castell ar Fehefin 4.
Bydd yna sgrin fawr ac mae trefnwyr wedi annog pobl i ddod yno am bicnic.