Bacteria yng nghyflenwad dŵr ysgol
- Cyhoeddwyd

Mae'r awdurdodau wedi dod o hyd i facteria yng nghyflenwad dŵr ysgol uwchradd yn y Cymoedd.
Dywedodd Cyngor Caerffili fod ymchwiliadau yn parhau i'r digwyddiad yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn Fleu-de-lys ger y Coed Duon.
Mae'n annhebyg y bydd yna risg i iechyd cyhoeddus a bydd yr ysgol yn parhau ar agor.
Dywedodd y cyngor eu bod yn trafod y sefyllfa gyda'r cwmni preifat sy'n gyfrifol am adeiladau'r ysgol.
"Mae adroddiad wedi ei baratoi am y ffaith fod bacteria legionella wedi ei ddarganfod yn y cyflenwad dŵr," meddai llefarydd ar ran y cyngori.
'Ynysu'
"Ar ôl y darganfyddiad cafodd y cyflenwad dŵr ei ynysu fel rhan o fesurau iechyd a diogelwch. Mae ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.
"Oherwydd y camau sydd wedi eu cymryd mae'n ddiogel i'r ysgol barhau ar agor."
Dywedodd eu bod wedi rhoi gwybod i Iechyd Cyhoeddus Cymru.
"Mae'n annhebyg y bydd yna risg i iechyd cyhoeddus a does dim rheswm pam na ddylai staff a disgyblion fynd i'r ysgol yn ôl yr arfer."
Mae sawl math o Glefyd Llengfilwyr.
Fe allai'r math y cafwyd hyd iddo yn yr ysgol achosi salwch ond nid yw'n farwol.
Straeon perthnasol
- 27 Ionawr 2009
- 21 Medi 2010