Cyhuddo dyn o lofruddiaeth yn Rhymni
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 65 oed wedi bod gerbron llys ddydd Gwener ar gyhuddiad o lofruddio ei gymydog.
Cyhuddwyd David Cook o ladd Len Hill, 64 oed.
Clywodd y gwrandawiad y byddai Mr Cook o Rymni, Sir Caerffili, yn sefyll ei brawf yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Ebrill.
Mae disgwyl i'r achos bara am hyd at dair wythnos.
Cafodd plismyn eu galw i dŷ yn Nhan-y-bryn, Rhymni, ym mis Mehefin y llynedd.
Ar ôl cyrraedd y tŷ, fe ddaethon nhw o hyd i gorff.
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio i sut y deliodd yr heddlu â'r achos.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol