Pam y pleidleisiodd Cymru Ie
- Cyhoeddwyd

Mae llyfr yn cael ei lansio nos Lun am hanes Refferendwm 2011.
Bydd "Wales Says Yes: Devolution and the 2011 Welsh Referendum" yn cael ei lansio yng Nghanolfan y Morlan yn Aberystwyth.
Mae'r llyfr yn egluro cefndir y refferendwm, pam y cafodd ei gynnal a'r hyn oedd yn y fantol.
Yr awduron yw'r Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, a'r Athro Roger Scully.
'Awdurdodol'
Dywedodd yr Athro Charlie Jeffrey, Pennaeth Adran Wleidyddiaeth Prifysgol Caeredin:
"Mae hon yn enghraifft o wyddor gwleidyddiaeth o'r safon ucha' am ei bod yn taflu goleuni ar yr arfer gorau yng nghyd-destun cenedlaetholdeb, gwrthdaro pleidiau, democratiaeth uniongyrchol a sut y mae pobl yn pleidleisio.
"Yn ogystal â gwaith Rick Rawlings, hwn fydd hanes awdurdodol ffurfio system wleidyddol newydd yng Nghymru."
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews: "Bydd y gyfrol yn sbarduno dadlau a thrafod yng Nghymru a thu hwnt.
"Mae'n gyfrol ddarllenadwy, gynhwysfawr a gwybodus."
Mae'r llyfr yn ceisio egluro sut y daeth yr ymgyrchoedd Ie a Na i'r amlwg ac i ba raddau yr oedden nhw'n llwyddiannus.
Gan ddefnyddio cofnod manwl o'r canlyniadau a dadansoddiad o dystiolaeth arolwg o bleidleiswyr Cymru, mae'r llyfr yn egluro pam y pleidleisiodd Cymru Ie ym Mawrth 2011.
Hefyd mae'n ystyried yr hyn y gall y canlyniad ei olygu i ddyfodol Cymru a'r DU.
Un sir
Roedd gan 2.2 miliwn o bobl yng Nghymru gyfle i bleidleisio a phenderfynu a ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael pŵer uniongyrchol i lunio deddfau yn yr 20 maes sydd eisoes wedi eu datganoli.
Ar ôl yr holl ganlyniadau roedd 517,132 o blaid a 297,380 yn erbyn.
Dim ond un sir, Mynwy, bleidleisiodd yn erbyn cynyddu pwerau i'r Cynulliad.
Cyhoeddir y gyfrol gan Wasg Prifysgol Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2011
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2011