Ynni: Cais cynllunio 'arloesol'

  • Cyhoeddwyd
Afan TafFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cyngor am ddefnyddio afon Taf i gynhyrchu ynni.

Mae cyngor sir am osod tyrbinau er mwyn defnyddio pŵer dŵr afon i gyflenwi canolfannau hamdden.

Cais cynllunio Cyngor Caerdydd yw'r cynta' o'i fath yng Nghymru ond bydd rhaid cael sêl bendith Asiantaeth yr Amgylchedd.

"Rydym wedi cael sawl cais tebyg oddi wrth unigolion neu fusnesau ond hwn yw'r cynta' oddi wrth gyngor sir," meddai llefarydd ar ran yr asiantaeth.

Bwriad y cyngor yw gwerthu'r trydan sy'n cael ei gynhyrchu yn ôl i'r Grid Cenedlaethol.

Eisoes mae un cyngor dros y ffin, Bryste, yn dweud eu bod yn ystyried cynllun tebyg.

"Er taw hwn yw'r cais cynta' o'i fath oddi wrth gyngor sir mae'n bosib nad hwn fydd yr ola'," meddai llefarydd ar ran yr asiantaeth.

£1.5m

Nod y cyngor yw gosod tyrbinau ar gost o £1.5 miliwn ar afon Taf ger Cored Radur.

Mae'r cyngor wedi dweud y bydd y cynllun 400 cilowat yn cynhyrchu digon o ynni i gyflenwi tair canolfan hamdden y ddinas am flwyddyn.

Byddai'n rhaid cael trwydded oddi wrth yr asiantaeth cyn dargyfeirio unrhyw ddŵr o'r afon.

Bydd yr asiantaeth yn ystyried effaith cynllun o'r fath ar bysgod ac unrhyw risg o lifogydd.

"Rydym yn disgwyl mwy o fanylion ond mae'r broses yn eitha' cymhleth," meddai llefarydd ar ran yr asiantaeth.

Y bwriad yw dechrau gosod tyrbinau yn yr haf.

Os yw'r cynllun yn cael ei dderbyn, bydd y cyngor yn adleoli llwybr pysgod a hefyd ran o lwybr Taith Taf.