'Helpu pobl mewn cyfnod anodd'

  • Cyhoeddwyd
Nick CleggFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Nick Clegg : 'Gwneud miliwn o bobl Cymru'n well eu byd'

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn helpu pobl mewn cyfnod anodd yw neges yr arweinyddiaeth yn eu cynhadledd wanwyn yng Nghaerdydd.

Yn ei araith ddydd Sadwrn bydd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, yn dweud eu bod nhw eisiau gwneud "miliwn o bobl Cymru yn well eu byd."

Yn y gynhadledd mae arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams, wedi cyfeirio at ddylanwad y blaid yng Nghaerdydd a dweud iddyn nhw sicrhau mwy o arian i blant ysgol Cymru.

Beirniadodd "ddiffyg uchelgais" y Blaid Lafur.

Fe fydd etholiadau lleol mis Mai yn dalcen caled i'r Democratiaid Rhyddfrydol oherwydd beirniadu toriadau'r glymblaid yn San Steffan.

Treth incwm

Wrth annerch yr aelodau, bydd Mr Clegg yn cyfaddef nad oes yna "ffon hud fydd yn gwneud popeth yn well dros nos".

Ond bydd yn pwysleisio fod y blaid mewn clymblaid gyda'r Ceidwadwyr eisoes wedi torri'r dreth incwm ac yn "rhoi help llaw, ymarferol mewn cyfnod anodd".

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Kirsty Williams: Yn cyhuddo Llafur o 'ddiffyg uchelgais'

Bydd yn dweud: "Diolch i'r Democratiaid Rhyddfrydol, rydym wedi rhoi £200 y flwyddyn yn ôl yn eich pocedi y llynedd a £130 arall o fis nesaf."

Ond mae'r blaid eisiau mynd ymhellach a chynyddu trothwy talu treth incwm i £10,000.

Byddai hynny, meddai Mr Clegg, yn sicrhau bod "miliwn o bobl Cymru yn well eu byd oherwydd y Democratiaid Rhyddfrydol."

Soniodd Kirsty Williams am ddylanwad cadarnhaol y blaid yn y Cynulliad ac mewn llywodraeth leol wrth helpu teuluoedd oedd yn ei chael hi'n anodd.

Yn yr etholiadau lleol fe fydd y blaid yn gobeithio dal gafael ar gynghorau Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, cynghorau sydd wedi "cadw'r cynnydd mewn treth cyngor yn gyson o isel".

Er bod y blaid wedi mynd o chwech i bum sedd yn Etholiadau'r Cynulliad y llynedd bydd arweinydd y blaid yng Nghymru yn dweud eu bod nhw'n "defnyddio eu dylanwad ar bob lefel llywodraeth i wneud gwahaniaeth ac i helpu bywydau teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yng Nghymru."

£450

Yn y Cynulliad fe gefnogodd y blaid gyllideb y llywodraeth Lafur leiafrifol yn gyfnewid am arian at addysg rhai o blant tlotaf Cymru.

Bydd ysgolion yng Nghymru yn derbyn £450 am bob plentyn ysgol sy'n cael cinio ysgol am ddim ar ôl i'r Democratiaid Rhyddfrydol daro bargen i gefnogi'r gyllideb ym mis Tachwedd.

Dywedodd Kirsty Williams fod hyn "wedi sicrhau bod plant o'r cefndiroedd tlotaf yn cael y cymorth maen nhw'n ei haeddu."

Beirniadodd Lywodraeth y Cynulliad am beidio â gwneud "y mwyaf o'u pwerau deddfu" a'u cyhuddo o "ddiffyg uchelgais, dychymyg ac unrhyw ymdeimlad o frys".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol